Dwi'n credu 'u bod nhw'n gywir sdi Kez - edrycha ar oedran yr edefyn, er enghraifft. Ma "be sydd ar eich stereo..." yn ryw 5 mlynedd oed erbyn hyn - a ma'n edefyn digon diddorol i archifo hefyd, fel argymhellion ar gyfer cds a ballu.
'Falla bod hyn yn ffactor...pa mor hen yw'r edefyn Y Byd erbyn hyn? Dwi'n meddwl bod 7, 000 o ddarllenwyr yn ffigwr digon parchus ar ei gyfer, ac os yw'r neges yn cyrraedd y darllenwyr - hynna sy'n bwysig...sdim angan mynd yn dechnegol - dim ond rhifa di-synnwyr ydyn nhw cofia!
Be sy'n y nghymlethu i fwya ydi nifer yr aelodau yma sydd wedi trafferthu i ymaelodi, a heb fynd ati i bostio neges syml - a dwi'n parchu pob aelod sy'n defnyddio'r seiat Croeso a Chyfarchion hefyd. Wrth gael golwg fach wan, a chydig o faths syml
Nifer heb ysgrifennu un neges: 1233 38%
Nifer wedi ysgrifennu llai na 10 neges : 2230 68%
Pam hyn ta? Dwim yn un i ddeud 'mod i'n bostiwr brwd, ond dwi'n siwr bod gan 1233 o aeloda rywbeth bychan i gyfrannu 'ma.