Problemau postio ymateb

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Problemau postio ymateb

Postiogan Prysor » Gwe 28 Maw 2008 12:58 am

Rhywun arall yn cael trafferth cael y dudalen sgwennu ymateb i lwytho heddiw?

(dwi'm yn siwr os dio rwbath i neud efo'r Firefox newydd sydd wedi updatio heddiw, actiwali)
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Problemau postio ymateb

Postiogan Prysor » Gwe 28 Maw 2008 11:59 am

Mae'r broblem yn parhau ac yn gwaethygu. Alla i glicio linc mewn ebost (er bod gena i broblemau dybryd efo ebost ar y funud hefyd) a dod i dudalen yn y maes, ond wedyn alla i ddim llwytho unrhyw dudalen wedyn. Dwi'n gorfod iwsio tudalennau'r cache - mynd yn ôl - er mwyn symud i dudalennau eraill.

Weithiau mi fedrai gyrraedd y maes - o lincs ebyst - ar ddwy ffenest, yna tydi'r drydydd ddim yn gweithio. Cau llwytho 'lly. Wedyn bydd y ffenestri agored eraill yn gwrthod llwytho hefyd.

Hefyd, newidiodd y ffont mewn un ffenest, heb i mi wneud dim, mond gwasgu minimize a restore. A phan es i Options a newid y font yn ôl i'r seis iawn, doedd o ddim yn newid. Ond yn y ffenestri eraill, roedd o wedi newid i ffont bach (am fy mod wedi newid yn y ffenest arall).

Dim ond efo fy ebost (problem llwytho o weinydd Yahoo i Outlook Express) a Maes-e wyf wedi bod yn cael y broblem.

Hefyd, mae IE 6 yn newid yn ôl i default yn ddirybudd, er mod i efo Firefox ers wythnosau.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Problemau postio ymateb

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 28 Maw 2008 4:19 pm

Sori does ddim unrhyw atebion gyda fi... ond mae'n swnio fel bod rhyw feirws ar dy gyfrifiadur. Oes gen ti system gwrth feirws? Gwna'n siwr dy fod gyda 1 system gwrth-feirws yn unig ar dy gyfrifiadur ar y tro, achos ma nhw'n gallu gwrth-weithio gyda'i gilydd os oes mwy na un. Fi'n defnyddio AVG sy'n rhad ac am ddim. Wyt ti wedi sganio dy gyfrifiadur yn ddiweddar?

Fi wedi defnyddio'r maes ar oleiaf 5 gwahanol gyfrifiadur o Mac i Windows XP i Windows 98! dros y dyddie diwethaf a heb gael unrhyw broblemau.

Byddai hefyd yn werth chwilio i weld os oes unrhyw adware neu malware ar dy gyfrifiadur. Tria SUPERAntiSpyware. Mae modd defnyddio hwn gyda dy feddalwedd gwrth-feirws. Roedd gyda fi AVG yn rhedeg beth bynnag, ond yn cael peth problemau. Wnes i redeg hwn, a daeth o hyd i lwyth o bethau doji nad oedd i fod ar fy nghyfrifiadur a'u dileu. Pethe mae meddalwedd gwrth-feirws yn aml yn eu colli. Cyfrifiadur yn rhedeg lot yn well ers hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Problemau postio ymateb

Postiogan Prysor » Gwe 28 Maw 2008 8:02 pm

Diolch Hedd. Mae gen i AVG, Ccleaner, Spybot, Adaware, Spywareblaster CWShredder etc, ac wedi sganio efo nhw i gyd. Doedd dim yn bod. Ges drwodd i BTYahoo ar y ffon yn y diwadd (wel, i ddynes o India!) a dywedodd wrthai am switshio'r cyfrifiadur off yn y mains am 5 eiliad, wedyn yr Home Hub am 5 eiliad, wedyn rhoi'r cyfrifiadur mlaen, wedyn yr Hub..... Daeth pethau yn ôl yn iawn... ond alla i ddim dweud 'problem solved' achos mae wedi bod yn dod yn ol yn iawn o'r blaen, a mwya sydyn ail-ddechrau chwara i fyny... Dwi heb gael amsar i fod arno i ddeud yn iawn os problem solved tan rwan, achos ges i alwad i fynd i'r ysbyty, gan fod y teulu wedi cael ein galw at fy nhaid (Wil, cefnder dy nain?), sydd yn go wael, cradur... (dyna un ffordd o gael atgoffa o flaenoriaethau - cyfrifiaduron o ddiawl!)...

Ta waeth, fel ti'n deud, mae'n amlwg nad oedd o unrhyw beth i wneud â Maes-e.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Problemau postio ymateb

Postiogan 7ennyn » Sul 30 Maw 2008 12:22 am

Dwi'n cael yn union yr un broblem - wnes i bostio 'chydig ddyddiau yn ol am y peth. Mae'r porwr yn disgwyl am ambell i eitem (aur5.gif, icon_contact_msm.gif a quote.gif) i gyrraedd, ond yn ofer. Mae'n edrych yn debyg i mi mai hyn sydd yn achosi'r poen yn y rectwm. Mae pwyso'r botwm octagon coch hefo croes yn ei ganol cyn gwneud dim arall yn sortio'r peth allan.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Problemau postio ymateb

Postiogan Prysor » Llun 31 Maw 2008 11:27 am

Na, dim y broblem yna oeddwn yn gyfeirio, 7ennyn. Mae'r broblemn wyt yn gyfeirio ati yn digwydd o hyd, ond dydi erioed wedi bod yn broblem - yn enwedig wrth glicio'r octagon coch 'na.

Doedd y tudalennau ddim yn llwytho o gwbl gen i - ddim yn symud o'r dudalen flaenorol, a dim un sgwar bach gwyrdd yn dod i fyny yn y blwch llwytho yn y bar ar waelod y dudalen.

Ymddengys mai fy HomeHub BT oedd y drwg. Roedd angen ei bweru i lawr. Mae'n debyg fod angen gwneud hynny o dro o dro.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Problemau postio ymateb

Postiogan Prysor » Maw 01 Ebr 2008 10:28 am

hold on!!!

Ti'n iawn, 7ennyn. Mae'r brblem yn bodoli o hyd. Tudalennau'n cau llwytho'n llawn. Gwasgu'r octagon coch a chroes, wedyn di'r botwm dyfynnu ddim yn dangos. Weithia di'r botwm postio ymateb ddim yno. Ac os ydio yno (ar ôl gwasgu'r octagon coch) neith o ddim gweithio wrth ei glicio - neith yr un dudalen drio llwytho eto, heb unrhyw sgwaryhn gwyrdd yn ymddangos yn y blwch llwytho ar waelod y dudalen. Wedyn, mae'n amhosib symud i unrhyw dudalen heb iwsio'r botwm BACK.

Yn union yr un symtomau ac oeddwn yn gael o'r blaen, tra'r oeddwn yn cael problemau ebost. Ond mae fy ebost yn iawn y tro yma, felly cyd-ddigwyddiad oedd hynny. Debyg nad oedd fy amheuon ar y pryd ddim yn ddisail wedi'r cwbwl. Mae Maes-e yn chwarae i fyny.

7ennyn - sgenti update ar dy sefyllfa di? (ti wedi updatio Firefox yn ddiweddar, gyda llaw?)
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Problemau postio ymateb

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 01 Ebr 2008 10:37 am

mmm... :?

Firefox (ar gyfer Mac) dwi'n defnyddio, ac mae'r tudalennau yn llwytho'n llawn ac yn gyflym iawn! Dwi hefyd wedi defnyddio Firefox ar gyfer PC yn ystod yr wythnos diwethaf, ac roedd y tudalennau i gyd yn llwytho'n llawn ac yn gyflym. Dwi heb ddiweddaru fy Firefox yn ddiweddar, felly fe wnaf hynny nawr i weld os oes unrhyw broblem. Y Firefox dwi'n defnyddio ar hyn o bryd yw fersiwn 2.0.0.11, neu yn llawn -

Mozilla/5.0 (Macintosh; U; PPC Mac OS X Mach-O; cy-GB; rv:1.8.1.11) Gecko/20071127 Firefox/2.0.0.11

Gol. Newydd wirio'r fersiwn o Firefox, ac dwi'n rhedeg yr un diweddaraf.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron