gan Prysor » Gwe 28 Maw 2008 8:02 pm
Diolch Hedd. Mae gen i AVG, Ccleaner, Spybot, Adaware, Spywareblaster CWShredder etc, ac wedi sganio efo nhw i gyd. Doedd dim yn bod. Ges drwodd i BTYahoo ar y ffon yn y diwadd (wel, i ddynes o India!) a dywedodd wrthai am switshio'r cyfrifiadur off yn y mains am 5 eiliad, wedyn yr Home Hub am 5 eiliad, wedyn rhoi'r cyfrifiadur mlaen, wedyn yr Hub..... Daeth pethau yn ôl yn iawn... ond alla i ddim dweud 'problem solved' achos mae wedi bod yn dod yn ol yn iawn o'r blaen, a mwya sydyn ail-ddechrau chwara i fyny... Dwi heb gael amsar i fod arno i ddeud yn iawn os problem solved tan rwan, achos ges i alwad i fynd i'r ysbyty, gan fod y teulu wedi cael ein galw at fy nhaid (Wil, cefnder dy nain?), sydd yn go wael, cradur... (dyna un ffordd o gael atgoffa o flaenoriaethau - cyfrifiaduron o ddiawl!)...
Ta waeth, fel ti'n deud, mae'n amlwg nad oedd o unrhyw beth i wneud â Maes-e.