Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

Postiogan Prysor » Gwe 18 Ebr 2008 9:00 am

Gol. Wedi symud y negeseuon isod o edefyn arall. Eironig iawn!Hedd

:lol:

hefyd, o wybod pwy ydio, mae'n gneud synnwyr pam ei fod isio cadw'r edefyn yma yn uchel i fyny ar restr y seiat.

er fod 0.01% o'i negeseuon yn adloniant pur, mae 90% o weddill ei ebychiadau yn torri rheolau'r maes, ac yn tanseilio mwynhad cyfrannwyr eraill o ddilyn a chyfrannu i edefynnau - yn enwedig gan fod y natur ddynol yn golygu ei bod yn anochel y bydd ambell un ohonom yn methu peidio ag ymateb i'r crinc gwyrdroedig, ar adegau.

mae pob negesfwrdd arall - llawer efo llai o gymedrolwyr na'r maes 'ma - yn banio trols.

dim mod i'n galw'n uniongyrchol am weithredu yn erbyn neb, dwi jesd yn mynegi fy anghrediniedd (yn enwedig o ystyried polisi golygu llymach y regime newydd) - ynghylch y diffyg gweithredu yn ei erbyn. Wedi'r cwbl, mae'r boi yn drol 100%. Cythruddo, tanseilio, sbwylio, creu malais a chwerwedd, a byrstio peli pobl eraill - yn hytrach na chyfrannu a chwarae'r gem - yw ei unig amcanion. :?

ond dyna ni, parhau i'w anwybyddu fydd rhaid, am wni......
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Llais Gwynedd a John Walker

Postiogan Kez » Gwe 18 Ebr 2008 9:24 am

Pwy yw e 'te? Gad inni gyd gal gwbod gyda llun os yn bosibl!
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Llais Gwynedd a John Walker

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 18 Ebr 2008 9:27 am

Prysor a ddywedodd:dim mod i'n galw'n uniongyrchol am weithredu yn erbyn neb, dwi jesd yn mynegi fy anghrediniedd (yn enwedig o ystyried polisi golygu llymach y regime newydd) - ynghylch y diffyg gweithredu yn ei erbyn. Wedi'r cwbl, mae'r boi yn drol 100%. Cythruddo, tanseilio, sbwylio, creu malais a chwerwedd, a byrstio peli pobl eraill - yn hytrach na chyfrannu a chwarae'r gem - yw ei unig amcanion. :?

ond dyna ni, parhau i'w anwybyddu fydd rhaid, am wni......


Y broblem gyda banio ydy bod pobl fel arfer yn dod nôl dan enw arall, ac yn ymddwyn yn waeth byth! Mae'n anodd gwybod bheth i wneud!!

Dwi ddim yn credu ein bod wedi bod yn gweinyddu yn fwy llym :? Yr un criw sydd wrthi ers cyfnod Nic, a dwi heb olygu yr un edefyn ers wythnosau heblaw am un cwpwl o ddyddie yn ôl oedd gydapotensial i fynd yn gas iawn ac yn enllibus!!

Gol. A fi newydd olygu neges Kez uchod!! :crechwen: Dim ymosodiadau personol yn erbyn aelodau eraillo y maes os gwelwch yn dda Mr Jones! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Llais Gwynedd a John Walker

Postiogan Kez » Gwe 18 Ebr 2008 9:55 am

Wi'n credu bod Hedd wedi mynd nawr - yr unig beth wetas i oedd nag own i'n meddwl y bysa Rooney ymysg y petha perta yn y byd. Wela i ddim byd yn bod ar hwnna :?
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Llais Gwynedd a John Walker

Postiogan Prysor » Gwe 18 Ebr 2008 10:02 am

Hedd a ddywedodd:Dwi ddim yn credu ein bod wedi bod yn gweinyddu yn fwy llym :? Yr un criw sydd wrthi ers cyfnod Nic, a dwi heb olygu yr un edefyn ers wythnosau heblaw am un cwpwl o ddyddie yn ôl oedd gydapotensial i fynd yn gas iawn ac yn enllibus!!

Gol. A fi newydd olygu neges Kez uchod!! :crechwen: Dim ymosodiadau personol yn erbyn aelodau eraillo y maes os gwelwch yn dda Mr Jones! :winc:


ok, Hedd - os ti isio chwara efo geiriau - 'polisi' llymach yr un un regime ond fod o'n newydd :rolio:

Hedd - dw i'n bersonol wedi darllen mwy o achosion o olygu negeseuon oherwydd "ymosodiadau personol" - honnedig ar y lleiaf - a rhesymau cywirdeb gwleidyddol, ar y maes 'ma ers y 'regime' newydd nag a welais trwy holl flynyddoedd Nic Dafis. Dwi'n meddwl fyddai eraill yn cytuno.

o ran rooney - waeth faint o amser mae trols yn dod yn ol, dydi ddim yn anodd eu sbotio nhw, nacdi? mae rooney wedi sgwennu bron i fil o negeseuon - pob un yn faleisus neu efo bwriad maleisus. Ydi hi o ddifrif yn cymryd dros 900 o negeseuon i weld be ydi'r boi?

yr holl amser ti'n gorfod wastio yn golygu negeseuon Maeswyr cydwybodol, triw a selog, sydd wedi ymateb iddo fo! Fysa'm yn well i ti jesd banio'r boi???
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Llais Gwynedd a John Walker

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 18 Ebr 2008 10:19 am

Cwyno am or-weinyddu, cwyno am ddim gweinyddu digon. :ofn: clatsiwch bant bois bach, ma pethe pwysicach gyda fi i wneud gyda'n amser beth bynnag! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Llais Gwynedd a John Walker

Postiogan Prysor » Gwe 18 Ebr 2008 10:22 am

gyda llaw - engraifft berffaith - Aeron, un sydd wedi torri rheolau'r maes droeon (enllib etc) ac wedi ei sbotio ers mwy neu lai ei neges cyntaf.

dio'm yn anodd Hedd
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Llais Gwynedd a John Walker

Postiogan Prysor » Gwe 18 Ebr 2008 10:25 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Cwyno am or-weinyddu, cwyno am ddim gweinyddu digon. :ofn: clatsiwch bant bois bach, ma pethe pwysicach gyda fi i wneud gyda'n amser beth bynnag! :winc:


gret! slap i'r bobol sydd di bod yn ffyddlon i'r Maes, ac efo cwynion dilys, yn lle fod yn ddigon penderfynol i wasgu botwm a banio un sy'n gneud y lle ma mor ddiflas :rolio: da iawn Hedd *applause*

(paid a cymryd offens, gyda llaw, gyfaill)
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

Postiogan Prysor » Gwe 18 Ebr 2008 10:48 am

Prysor a ddywedodd:Gol. Wedi symud y negeseuon isod o edefyn arall. Eironig iawn!Hedd


ia :D
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 18 Ebr 2008 10:48 am

Dwisho ategu'n llais fan hyn at un aelod penodol sydd byth yn gwneud dim synnwyr, ddim yn cyfrannu'n adeiladol at unrhyw drafodaeth, yn sbamo'r un peth drosodd a throsodd ac yn wir, wir, wir mynd ar fy nerfau i efo'i gyfraniadau. Wn i ddim os fi di'r unig un sy'n taro 'mhen yn erbyn y ddesg bob tro dwi'n darllen neges ganddo. :ing:
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Nesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai