gan Wylit, wylit Lywelyn » Sad 19 Ebr 2008 11:07 pm
Wyddost ti be ceribethlem, dwi wedi dod i'r casgliad ei bod hi'n anhebygol iawn y gallaf dy argyhoeddi fel arall. Sy'n arwain at ddau air (ia, cynildeb- ond hynod o effeithiol ar adegau): O wel...
Gyda llaw (i'r ditectifs gwael), nid fi yw 'rooney'. Tydw i ddim wedi darllen llawer o negeseuon rooney erioed (cewch beidio credu hyn os ydych chi eisiau- ond dyma'r gwir!), ond pawb a'i farn? Mae gen i ffydd yng ngweledigaeth gyflawn Hedd (nid crafu tin yw hyn- tydw i erioed wedi gwneud hyn ar y maes- a tydw i ddim digon gwirion i gychwyn nawr!) ar gyfer maes-e. Seiat sy'n ffrwtian- byddai llai o wres yn ddiawledig o, wel...diflas.