Sylwer ar y ' ' gyfaill. Dyw'r busnes gweinyddu yma ddim mor hawdd a ma pobl yn feddwl. Mae modd banio enw defnyddiwr, cyfeiriad ebost a chyfeiriad IP person, ond mae'n hawdd iawn dod rownd y pethe 'ma.
Beth dwi wedi bod yn gwneud ydy danfon negeseuon preifat at bobl yn weddol gyson yn eu hatgoffao reolau'r maes yn hytrach na golygu negeseuon neu ddileu cyfrifon. Efallai nad hwn yw'r dacteg ore,ond nidoes tacteg perffaith.
O ran ochr arall y sbectrwm, a'r gwyn fod yna ormod o gymedroli, dwi ddim yn credu fod mwy o gymedroli nawr na sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd. Dwi wedi edrych drwy'r cofnodion cymedroli, ac onibai am olygu sydd wedi digwydd dros y dyddie diwethaf ar un neu ddau edefyn yn benodol ('Etholiadau Cyngor Sir' a 'Llais Gwynedd a John Walker') nid oes bron unrhyw olygu wedi bod yn ystod y mis diwethaf.