Gol. Wedi symud y negeseuon isod o edefyn arall. Eironig iawn!Hedd
hefyd, o wybod pwy ydio, mae'n gneud synnwyr pam ei fod isio cadw'r edefyn yma yn uchel i fyny ar restr y seiat.
er fod 0.01% o'i negeseuon yn adloniant pur, mae 90% o weddill ei ebychiadau yn torri rheolau'r maes, ac yn tanseilio mwynhad cyfrannwyr eraill o ddilyn a chyfrannu i edefynnau - yn enwedig gan fod y natur ddynol yn golygu ei bod yn anochel y bydd ambell un ohonom yn methu peidio ag ymateb i'r crinc gwyrdroedig, ar adegau.
mae pob negesfwrdd arall - llawer efo llai o gymedrolwyr na'r maes 'ma - yn banio trols.
dim mod i'n galw'n uniongyrchol am weithredu yn erbyn neb, dwi jesd yn mynegi fy anghrediniedd (yn enwedig o ystyried polisi golygu llymach y regime newydd) - ynghylch y diffyg gweithredu yn ei erbyn. Wedi'r cwbl, mae'r boi yn drol 100%. Cythruddo, tanseilio, sbwylio, creu malais a chwerwedd, a byrstio peli pobl eraill - yn hytrach na chyfrannu a chwarae'r gem - yw ei unig amcanion.
ond dyna ni, parhau i'w anwybyddu fydd rhaid, am wni......