Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 18 Ebr 2008 10:50 am

Sylwer ar y ' :winc: ' gyfaill. Dyw'r busnes gweinyddu yma ddim mor hawdd a ma pobl yn feddwl. Mae modd banio enw defnyddiwr, cyfeiriad ebost a chyfeiriad IP person, ond mae'n hawdd iawn dod rownd y pethe 'ma.

Beth dwi wedi bod yn gwneud ydy danfon negeseuon preifat at bobl yn weddol gyson yn eu hatgoffao reolau'r maes yn hytrach na golygu negeseuon neu ddileu cyfrifon. Efallai nad hwn yw'r dacteg ore,ond nidoes tacteg perffaith.

O ran ochr arall y sbectrwm, a'r gwyn fod yna ormod o gymedroli, dwi ddim yn credu fod mwy o gymedroli nawr na sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd. Dwi wedi edrych drwy'r cofnodion cymedroli, ac onibai am olygu sydd wedi digwydd dros y dyddie diwethaf ar un neu ddau edefyn yn benodol ('Etholiadau Cyngor Sir' a 'Llais Gwynedd a John Walker') nid oes bron unrhyw olygu wedi bod yn ystod y mis diwethaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 18 Ebr 2008 10:52 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwisho ategu'n llais fan hyn at un aelod penodol sydd byth yn gwneud dim synnwyr, ddim yn cyfrannu'n adeiladol at unrhyw drafodaeth, yn sbamo'r un peth drosodd a throsodd ac yn wir, wir, wir mynd ar fy nerfau i efo'i gyfraniadau. Wn i ddim os fi di'r unig un sy'n taro 'mhen yn erbyn y ddesg bob tro dwi'n darllen neges ganddo. :ing:


Cofia am 'Cyfeillion a Gelynion'. Nid oes rhaid i ti weld negeseuon y cyfaill dan sylw!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

Postiogan Prysor » Gwe 18 Ebr 2008 11:05 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Cofia am 'Cyfeillion a Gelynion'. Nid oes rhaid i ti weld negeseuon y cyfaill dan sylw!


nefoedd radar! a phob parch, ond mae'n edrych fel dy fod yn defnyddio esgus ar ôl esgus i beidio gwasgu'r botwm 'na!

fyddwn i ddim yn teimlo mor gryf am y peth pe na fyddai pobl eraill yn cael rhybuddion i gadw at reolau'r maes, am resymau llawer llai, a llawer llai cyson, na'r aelod dan sylw. A faint o'r achosion hynny sy'n deillio'n uniongyrchol o ymatebion i'r aelod hwnnw?

gwraidd problemau sydd angen eu taclo, ynde?
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Llais Gwynedd a John Walker

Postiogan krustysnaks » Gwe 18 Ebr 2008 12:43 pm

Prysor a ddywedodd:Hedd - dw i'n bersonol wedi darllen mwy o achosion o olygu negeseuon oherwydd "ymosodiadau personol" - honnedig ar y lleiaf - a rhesymau cywirdeb gwleidyddol, ar y maes 'ma ers y 'regime' newydd nag a welais trwy holl flynyddoedd Nic Dafis. Dwi'n meddwl fyddai eraill yn cytuno.

Dwi ddim yn cytuno gyda ti, Prysor.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

Postiogan Prysor » Gwe 18 Ebr 2008 1:07 pm

tydi 'eraill' ddim yn 'pawb', Krusty.

a tydi pawb ddim yn darllen yr un edefynnau a fi.

mae teitl yr edefyn yma wedi ei greu gan Hedd, wrth ei symud (yn gwbwl iawn) o edefyn arall. Mae'n gamarweiniol. Codi mater rooney wnes i - petaet yn mynd i'r edefyn dan sylw fydda ti'n gweld ei fod yn boen (na, sori, ti'n gwybod sut mae o, obfiysli, pwy sydd ddim). Arweiniodd y drafodaeth honno am rooney i hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 18 Ebr 2008 1:19 pm

yn gynta, ymddiheuriadau am ddiffyg cymredoli gen i yn ddiweddar - ffyc all. yn wir, os oes rhywyn arall am gymryd drosodd y seiadau dwi fod yn gvyfrifol amdanynt yna plis dywedwch.

o ran rooney - dwn i didm pa drafodaethau mae hedd wedi gael efo fo, ond os nad yw ar ei rybydd ola erbyn hyn yna mae yna rywbeth mawr o'i le
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

Postiogan ceribethlem » Gwe 18 Ebr 2008 1:22 pm

Mae 'na fai arnai am stiro lan gyda rooney rhywfaint. Byddai'n stopio gwneud hyn a dechrau anwybyddu'r trol.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

Postiogan sian » Gwe 18 Ebr 2008 1:23 pm

ceribethlem a ddywedodd:Mae 'na fai arnai am stiro lan gyda rooney rhywfaint. Byddai'n stopio gwneud hyn a dechrau anwybyddu'r trol.


Da, was!
Tyse pawb yn gwneud hynny, buan iawn y dysgai'r troliaid nad oes sylw i'w gael a naill ai ddiflannu neu ddechrau trafod yn gall.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

Postiogan Kez » Gwe 18 Ebr 2008 1:25 pm

ceribethlem a ddywedodd:Mae 'na fai arnai am stiro lan gyda rooney rhywfaint. Byddai'n stopio gwneud hyn a dechrau anwybyddu'r trol.


Ie, bai Ceri yw e i gyd - bania fe!! :D :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

Postiogan ceribethlem » Gwe 18 Ebr 2008 1:27 pm

Kez a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:Mae 'na fai arnai am stiro lan gyda rooney rhywfaint. Byddai'n stopio gwneud hyn a dechrau anwybyddu'r trol.


Ie, bai Ceri yw e i gyd - bania fe!! :D :winc:

Os fi'n mynd, byddai'n mynd a ti gyda fi gwboi :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron