Tudalen 5 o 5

Re: Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

PostioPostiwyd: Sad 19 Ebr 2008 8:59 am
gan Prysor
ond mae hyn yn pointless - dwi ddim isio cwffio efo neb, a sgena i ddim byd personol yn erbyn rooney chwaith

so, Hedd, os na wyt yn mynd i neud rwbath am y trol, fine - ond paid a troi'r holl beth yn fwy o ffars nag ydi o.

cadw dy blydi rooney

T Rowland Uwd

Re: Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

PostioPostiwyd: Sad 19 Ebr 2008 9:01 am
gan Hogyn o Rachub
Watch owt, wyddoch chi fyth, gall Rooney fod yn fwystfil 6"7 (troedfedd) efo cyhyrau fel Carnedd Dafydd a dau belt du mewn Karate/Taikwando/Chapati. A phwy welodd Dori'n cwffio eniwe?

Re: Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

PostioPostiwyd: Sad 19 Ebr 2008 9:28 am
gan ceribethlem
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Watch owt, wyddoch chi fyth, gall Rooney fod yn fwystfil 6"7 ?
Tua'r un maint a fi felly :winc:

Hogyn o Rachub a ddywedodd:A phwy welodd Dori'n cwffio eniwe?

Rod Richardds a ddywedodd:Ahem

Re: Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

PostioPostiwyd: Sad 19 Ebr 2008 8:23 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwisho ategu'n llais fan hyn at un aelod penodol sydd byth yn gwneud dim synnwyr, ddim yn cyfrannu'n adeiladol at unrhyw drafodaeth, yn sbamo'r un peth drosodd a throsodd ac yn wir, wir, wir mynd ar fy nerfau i efo'i gyfraniadau. Wn i ddim os fi di'r unig un sy'n taro 'mhen yn erbyn y ddesg bob tro dwi'n darllen neges ganddo. :ing:

Pa baragraff neu frawddeg o fy eiddo sydd ddim yn gwneud synnwyr i ti? Dwi'n poeni am dy ben (ble mae'r gwenoglun 'coeglyd'?) Mae'n amlwg i mi fod un o fy negeseuon yn y gorffennol wedi dy gythruddo am ryw reswm. Tria ddarllen fy negeseuon heb gythru a meddwl i chdi dy hunan: wel, a oes gan y boi yma ambell i bwynt digon teg ar adegau? Coelia hyn neu beidio, ond mae hyn yn bosibilrwydd sdi :? Sgin ti asprin yn ty?

Re: Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

PostioPostiwyd: Sad 19 Ebr 2008 10:09 pm
gan ceribethlem
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Pa baragraff neu frawddeg o fy eiddo sydd ddim yn gwneud synnwyr i ti?
Pob un .
Wylit. wylit Lywelyn a ddywedodd: a oes gan y boi yma ambell i bwynt digon teg ar adegau?
Nagos.

Re: Gormod o Weinyddu? - Dim Digon o Weinyddu?

PostioPostiwyd: Sad 19 Ebr 2008 11:07 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Wyddost ti be ceribethlem, dwi wedi dod i'r casgliad ei bod hi'n anhebygol iawn y gallaf dy argyhoeddi fel arall. Sy'n arwain at ddau air (ia, cynildeb- ond hynod o effeithiol ar adegau): O wel...
Gyda llaw (i'r ditectifs gwael), nid fi yw 'rooney'. Tydw i ddim wedi darllen llawer o negeseuon rooney erioed (cewch beidio credu hyn os ydych chi eisiau- ond dyma'r gwir!), ond pawb a'i farn? Mae gen i ffydd yng ngweledigaeth gyflawn Hedd (nid crafu tin yw hyn- tydw i erioed wedi gwneud hyn ar y maes- a tydw i ddim digon gwirion i gychwyn nawr!) ar gyfer maes-e. Seiat sy'n ffrwtian- byddai llai o wres yn ddiawledig o, wel...diflas.