Tudalen 1 o 1

maes-e i lawr...

PostioPostiwyd: Gwe 23 Mai 2008 2:21 pm
gan Hedd Gwynfor
...am ychydig oriau heddi. Sori am hyn, problem gyda'r gweinydd, ond mae'n ymddangos bod popeth yn gweithio'n iawn erbyn hyn! :D

Re: maes-e i lawr...

PostioPostiwyd: Gwe 23 Mai 2008 4:48 pm
gan Aran
Rhyw fath o broblem gyda thrydan yn eu canolfan data - heb ddigwydd o'r blaen, os digwyddith o eto cawn ystyried symud.

Ond chwarae teg, maen nhw wedi gweithio'n galed i gael pob dim yn ôl i fyny...

Re: maes-e i lawr...

PostioPostiwyd: Sad 24 Mai 2008 10:39 am
gan Mwnci Banana Brown
Pwy yw'r cwmni gweinyddi de?

Re: maes-e i lawr...

PostioPostiwyd: Sad 24 Mai 2008 11:36 am
gan Aran
Gen i weinydd ymrwymiedig gyda Surpass Hosting. Gaethon nhw helynt go-fawr ddoe: http://www.surmunity.com/announcements/ ... pdate.html

Ond dw i wedi bod efo nhw ers dros 4 mlynedd erbyn hyn, ac wedi'u cael yn dda iawn.

Re: maes-e i lawr...

PostioPostiwyd: Sad 24 Mai 2008 11:59 am
gan Mwnci Banana Brown
Ah, wel digon teg de os ma nwn iwso UPS a genterators. Alle nw di neud dim am na.

Re: maes-e i lawr...

PostioPostiwyd: Sad 24 Mai 2008 12:24 pm
gan Aran
Mwnci Banana Brown a ddywedodd:Ah, wel digon teg de os ma nwn iwso UPS a genterators. Alle nw di neud dim am na.


Ai, yn union. Mae'n edrych fel bod problemau ehangach wedi bod yn Orlando, hefyd - bydd rhaid i mi ddechrau meddwl am gael drych-weinydd yn rhywle arall...

Re: maes-e i lawr...

PostioPostiwyd: Iau 29 Mai 2008 10:10 am
gan Wylit, wylit Lywelyn
Wwww... Aran- ti mor ffraeth!

Re: maes-e i lawr...

PostioPostiwyd: Iau 29 Mai 2008 2:45 pm
gan huwwaters
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Wwww... Aran- ti mor ffraeth!


Be ma hwne'n fod i feddwl.

Gobeithio mai ym Mae Penrhyn wyt ti dros dro, neu fyddai difaru dod adre.

Re: maes-e i lawr...

PostioPostiwyd: Iau 29 Mai 2008 2:52 pm
gan Hogyn o Rachub
huwwaters a ddywedodd:
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Wwww... Aran- ti mor ffraeth!


Be ma hwne'n fod i feddwl.


Diolch am ddim Huw! Ti 'di'n rhoi ni mewn peryg o gael ateb rwan.... :P

(wel, ymateb, dwi'n amau'n gryf y cawn 'ateb' yn ei ystyr geiriadurol caeth)

Re: maes-e i lawr...

PostioPostiwyd: Maw 23 Medi 2008 3:36 pm
gan Aran
Prawf.