Dwi wedi oedi cyn postio'r neges yma, ond dyma fi'n penderfynu dweud fy nweud beth bynnag.
Cefais ebost gan maes-e ddoe (ar ran Cymdeithas yr Iaith) yn gofyn i mi arwyddo deiseb - nid yw'n berthnasol os ydw i'n cytuno efo'r ymgyrch neu beidio - dwi'n bryderus braidd fod pob aelod o'r maes yn derbyn ebost wleidyddol ei naws.
Nes i ymuno efo'r maes er mwyn cael bod yn ran o gymuned Gymraeg cosmopolitan gyda phobl o pob rhan o'r sbectrwm wleidyddol ... a hyd yn oed rhai sy'n hoff o rygbi . Doeddwn i ddim yn disgwyl ebost yn gofyn i mi ymgyrchu ar ran grwp lobio gwleidyddol.
Yn amlwg ni fyddai unrhywbeth o'i le gyda postio neges yn y fforwm perthnasol, ond mae gyrru neges at pob aelod tipyn bach yn haerllug yn fy marn i.
Fel ddudes i, 'di hi ddim yn berthnasol os oeddwn yn cytuno efo'r neges neu beidio, 'dwi'n credu na ddylai'r maes fod yn cael ei ddefnyddio fel arf wleidyddol