Negeseuon ebost gan maes-e

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Negeseuon ebost gan maes-e

Postiogan eusebio » Llun 23 Meh 2008 7:37 pm

Dwi wedi oedi cyn postio'r neges yma, ond dyma fi'n penderfynu dweud fy nweud beth bynnag.

Cefais ebost gan maes-e ddoe (ar ran Cymdeithas yr Iaith) yn gofyn i mi arwyddo deiseb - nid yw'n berthnasol os ydw i'n cytuno efo'r ymgyrch neu beidio - dwi'n bryderus braidd fod pob aelod o'r maes yn derbyn ebost wleidyddol ei naws.
Nes i ymuno efo'r maes er mwyn cael bod yn ran o gymuned Gymraeg cosmopolitan gyda phobl o pob rhan o'r sbectrwm wleidyddol ... a hyd yn oed rhai sy'n hoff o rygbi ;) . Doeddwn i ddim yn disgwyl ebost yn gofyn i mi ymgyrchu ar ran grwp lobio gwleidyddol.

Yn amlwg ni fyddai unrhywbeth o'i le gyda postio neges yn y fforwm perthnasol, ond mae gyrru neges at pob aelod tipyn bach yn haerllug yn fy marn i.

Fel ddudes i, 'di hi ddim yn berthnasol os oeddwn yn cytuno efo'r neges neu beidio, 'dwi'n credu na ddylai'r maes fod yn cael ei ddefnyddio fel arf wleidyddol
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Negeseuon ebost gan maes-e

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 23 Meh 2008 9:32 pm

Digon teg Eusebio.

Ond i wneud cwpwl o bethau'n glir, nid neges 'gan Gymdeithas yr Iaith' oedd hi, ond neges gan berchennog maes-e yn gofyn am gefnogaeth i ddeiseb benodol sy'n cael ei gefnogi gan y Gymdeithas, UMCA, UMCB a llu o Academyddion, ac sy'n cael ei westeio ar wefan Cymdeithas yr Iaith.

Yn y bôn, gwefan breifat yw maes-e, nid yw'n eiddo i'r BBC, na'n derbyn ceiniog o arian cyhoeddus. Mae'n cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim i Gymry Cymraeg, a'u dewis nhw ydy ei ddefnyddio neu beidio. Er fy mod yn gwerthu hysbysebion ar y maes, mae'r oriau sydd wedi rhoi mewn iddo, yn ogystal â chostau cynnal a chadw yn llawer fwy na fyddaf i BYTH yn derbyn trwy hysbysebion.

Cymhariaeth deg fyddai pe bai perchennog siop yn gosod deiseb ar gownter ei siop, a gofyn i'r holl gwsmeriaid i'w arwyddo. Petasai'n gwneud hyn yn gyson, dwi'n siwr byddai rhai cwsmeriaid yn cael digon a'n mynd i siopa rhywle arall. Unwaith mewn chwe mis? Dwi ddim yn credu y byddai yna lot o gwyno.

O ran defnyddio'r maes fel arf gwleidyddol, sori Eusebio, ond ni fyddai'r maes yn bodoli O GWBWL i'w ddefnyddio mewn unrhyw ffordd petaswn i heb gytuno cymryd yr awenau. Cau oedd yr unig opsiwn arall. Fel roedd Nic yn arfer dweud - gwefan/eiddo preifat yw maes-e, wrth gwrs fod hawl gan unrhyw un gwyno am y ffordd mae'n cael ei redeg fel unrhyw fusnes arall, ond yn y pendraw, os nad ydych chi'n hapus gyda'r ffordd mae'n cael ei redeg, byswn i wrth fy modd petai rhywun yn barod i sefydlu rhywbeth gwell i gystadlu gyda maes-e.

Hedd.

O.N.. Ond hoffwn i nodi bod y pwyntiau ti'n codi yn hollol deg, a mae pob hawl gyda ti godi'r pwyntiau ar faes-e, er, dwi heb gael fy ngalw'n haerllug ers gadael yr ysgol! ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Negeseuon ebost gan maes-e

Postiogan 7ennyn » Llun 23 Meh 2008 10:20 pm

Dwi ddim yn meddwl bod yna ddim o'i le hefo be mae Hedd wedi ei wneud. Er, mi fysa'n well gen i yn bersonol 'tasa ein hannwyl arweinydd yn gwrthsefyll y temptasiwn i ddefnyddio ei freintiau brenhinol i hyrwyddo ei ddibenion personol ei hun.

Petasa fo wedi rhoi rhestr cyfeiriadau e-bost Maes-e i'r Gymdeithas neu unrhyw fudiad arall heb ganiatad gan yr aelodau, yna mi fysa hynny yn fater arall.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Negeseuon ebost gan maes-e

Postiogan eusebio » Llun 23 Meh 2008 10:21 pm

Diolch am ymateb Hedd, ond dwi ddim cweit yn credu bod hen lein Nic yn berthnasol yn yr achos yma.

Be ti'n ddweud ydi mai ti yw'r gweinydd ac os ti eisiau hysbysu pawb o rhyw ddeiseb neu'i gilydd, yna dy bêl di ydi o ac os nad ydw i'n hapus yna ga'i fynd i brynnu pêl fy hun? Digon teg, ond byddai'n brafiach petae ti'n dod allan a dweud hynny yn hytrach na trio'i guddio mewn rhyw gydweddiad cloff am siop gornel.
Alla'i ddim meddwl am llawer i siop fyddai'n gosod deiseb wleidyddol ei naws ar y cownter rhag ofn iddyn nhw bechu cwsmeriad nad oedd yn cytuno efo'u safbwynt gwleidyddol nhw - wedi'r cwbwl 'dy nhw ddim eisiau pechu unrhyw un sydd am ymweld a'u siop, nacdi?

Dwi'n derbyn na fyddai'r maes yn bodoli petae ti heb gymryd yr awenau, a dwi hefyd yn deall mai dim ond un ebost oedd hwn, ond dwi'n credu ei bod hi'n deg gofyn y cwestiwn.

Yda ni, fel aelodau, bellach yn cytuno i dderbyn ebyst yn ein hysbysu o achosion rwyt ti'n eu cefnogi ... neu efallai bydd pob aelod yn gallu gofyn i ti yrru ebost yn hysbysu'r aelodau eraill o ymgyrchoedd rydyn ni'n gefnogi?

Fel ddudes i, nid yw'n berthnasol os ydw i'n cefnogi'r ymgyrch dan sylw - yr egwyddor sy'n cael ei ddadlau yn fan hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Negeseuon ebost gan maes-e

Postiogan eusebio » Llun 23 Meh 2008 10:46 pm

... dwi'n sylwi bod yr amodau wedi newid bellach :winc:

Dwi ddim yn cwyno am dderbyn negeseuon gan y Gweinydd - cwyno ydw i am dderbyn negeseuon sydd yn ymgyrchol eu naws!
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Negeseuon ebost gan maes-e

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 23 Meh 2008 10:46 pm

Dwi wedi diweddaru Amodau a Thelerau maes-e, a'u gosod yn barhaol yma - viewtopic.php?f=42&t=25952

Nid oedd yr Amodau a thelerau ar gael i'w gweld (oni bai pan yn cofrestru) cyn heddiw.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Negeseuon ebost gan maes-e

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 23 Meh 2008 10:48 pm

eusebio a ddywedodd:... dwi'n sylwi bod yr amodau wedi newid bellach :winc:

Dwi ddim yn cwyno am dderbyn negeseuon gan y Gweinydd - cwyno ydw i am dderbyn negeseuon sydd yn ymgyrchol eu naws!


Dwi'n derbyn yr hyn ti'n dweud Eusebio, a bydd hyn yn cael ei ystyried yn y dyfodol.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Negeseuon ebost gan maes-e

Postiogan eusebio » Llun 23 Meh 2008 10:49 pm

Diolch.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi


Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron