Amodau a Thelerau maes-e.com

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Amodau a Thelerau maes-e.com

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 23 Meh 2008 10:43 pm

Trwy gael mynediad at “maes-e.com” (yma o hyn ymlaen “ni”, “ninnau”, “ein”, “'n”, “maes-e.com”, “http://maes-e.com”), yr ydych yn cytuno eich bod wedi eich rhwymo yn gyfreithiol gan y Telerau canlynol. OS NAD YDYCH YN CYTUNO A'R TELERAU HYN, PEIDIWCH A DEFNYDDIO'R GWASANAETH A GYNIGIR GAN “maes-e.com” OS GWELWCH YN DDA. Rydym ni'n cadw'r hawl i newid, diwygio, ychwanegu neu ddileu rhannau o'r Telerau Defnyddio hyn unrhyw bryd. Dylech wirio'r dudalen hon yn achlysurol am newidiadau. Bydd parhau i ddefnyddio gwasanaeth “maes-e.com” yn dilyn gosod y newidiadau yma yn golygu eich bod wedi derbyn y newidiadau hynny.

Pwerir ein fforymau gan phpBB (yma o hyn ymlaen “hwy”, “hwynt”, “hwythau”, “nhw”, “meddalwedd phpBB”, “www.phpbb.com”, “Grwp phpBB”, “Timau phpBB”) sef rhaglen Bwrdd Bwletin wedi ei ryddhau dan “Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol (GPL)” (yma o hyn ymlaen “GPL”) ac y gellir ei lawrlwytho o http://www.phpbb.com. Mae meddalwedd phpBB ond yn hwyluso trafodaethau ar y rhyngrwyd. Am fwy o wybodaeth ynglyn a phpBB, ewch at: http://www.phpbb.com/.

Cytunwch i beidio postio negeseuon sy'n ddifenwol, enllibus, sarhaus, anweddus, bygythiol, neu filain neu unrhywbeth a fyddai'n torri unrhyw gyfreithiau yn eich gwlad chi, cyfreithiau rhyngwladol neu gyfreithiau yn y wlad lle caiff “maes-e.com” ei westeio. Os byddwch yn gwneud unrhyw beth sydd wedi'i gynnwys yn y rhestr flaenorol, mae'n bosibl y cewch chi eich gwahardd o'r negesfwrdd yn syth ac am byth (ac mae posibiliad y byddwn yn dweud wrth eich Darparwr Gwasanaeth - ISP). Mae cyfeiriad IP bob neges yn cael ei recordio i helpu gorfodi'r amodau hyn. Cytunwch chi bod gan y Gwefeistr, Gweinyddion a Chymedrolwyr “maes-e.com” yr hawl i ddileu, golygu, symud neu gau unrhyw bwnc mewn unrhyw seiat neu gylch (boed yn seiat neu gylch agored, caeëdig neu guddiedig) unrhyw bryd, am unrhyw reswm. Fel defnyddiwr ar y negesfwrdd rydych chi'n cytuno y bydd unrhyw wybodaeth yr ydych wedi'i fewnddodi yn cael ei gadw mewn cronfa ddata.

Er na chaiff eich manylion personol eu rhannu gyda unrhyw drydydd person heb eich caniatâd, ni ellir dal “maes-e.com” na phpBB yn gyfrifol am unrhyw ymdrech i hacio'r gronfa ddata sy'n arwain at y ddata yn cael eu peryglu.

Fel aelod/defnyddiwr “maes-e.com” rydych chi'n cytuno i dderbyn negeseuon achlysurol gan Weinyddwr y Negesfwrdd.

Golygwyd 23/06/08
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron