Codi safon maes-e

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Codi safon maes-e

Postiogan nicdafis » Sul 12 Hyd 2003 1:21 pm

Dw i'n chwilio am ffyrdd i wneud maes-e yn fwy diddorol i'w darllen, ac yn llai plentynaidd. Dw i'n colli diddordeb yn y lle fel mae hi, ac os dydy pethau ddim yn gwella bydda i'n ei chau yn gyfan gwbl, neu ei gwerthu i unrhywun sydd â diddordeb.

Un peth hoffwn i wneud yw rhoi terfyn ar faint o edefau newydd gall un aelod ddechrau mewn dydd. Wedyn, falle, bydd pobl yn <i>meddwl</i> am funud cyn postio edefyn di-werth arall.

Syniadau / awgrymiadau?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan gwyn wyn » Sul 12 Hyd 2003 1:28 pm

fel person sy'n gymharol anabl ar y we sai'n deallt shwt mae gwefan fel maes-e yn gwitho. Er engraifft, Nic rwyt yn son am ei gwerthi... Shwt mae elwa oddi arno'r we? Fi'n sylwi bod dim hysbysebion i'w gal yma. Ife gwefan di elw yw'r maes?

Fi'n mwynhau y maes yn enfawr.
hei ffrindie!
Rhithffurf defnyddiwr
gwyn wyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Gwe 29 Awst 2003 3:47 am
Lleoliad: gwynedd

Postiogan nicdafis » Sul 12 Hyd 2003 1:44 pm

Ie, gwefan di-elw yw hi, hyd yn hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan pogon_szczec » Sul 12 Hyd 2003 1:57 pm

I Nic:

Wel ti'n siwr o gael rhai edefynau/negeseuon plentynaidd am fod rhai bobl yn blentynaidd.

Ac mae phethau sy'n ymddangos yn blentynaidd i ti yn wir ddoniol i bobl eraill.

Problem arall yw'r ffaith bod rhai bobl yn defnyddio'r maes fel stafell sgwrsio yn hytrach na negesfwrdd 'ddifrifol' ac felly mae'n angen setio un lan.

Yn wahanol i negesfwrdd Saesneg ei hiaith mae maes-e yn darparu gwasanaeth i bobl o genedlaethau gwahananol gyda diddordebau a chredau gwahanol ac yn y blaen.

Yn amlwg ti ddim yn elwa o'r negesfwrdd hon, ond yn fy marn gallet ti ('set ti mo'yn) am nad oes negesfwrdd arall (hyd y gwn) trwy gyfrwng y Gymraeg sy'n werth ymweld a fe. Wyt ti'n gwrthod elwa o'r maes oherwydd rhyw egwyddor ffol?

Ym fy marn, (os nag oes ots da ti clywed fy nghyngor) ddylet .........

1 Caria mlan, (os wyt ti'n becso am ddyfodol y Gymraeg) , mae'r wasanaeth yn wirioneddol werthfawr, ac yn rhoi cyfle i bobl sy ddim yn byw yng Nghymru (fel fi) cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.

2 Paid a becso am negeseuon/aelodau twp. Gelli di ddim rheoli pwy sy'n ymuno a fe.

3 Treia elwa o'r maes. Gelli di gynnwys hysbysebion er enghraifft. Falle fyddi di'n cael grant o ryw sefydliad sy ishe hybu defnydd y Gymraeg. Os yw maes-e yn cymryd lot o dy amser prin dwi'n meddwl dylet ti gael dy dalu amdano. Tasen i yn dy le, yn ddi-os basen i'n treial elwa.

Dwi wedi sylwi taw tiwtor Cymraeg i oedolion wyt ti. Yn fy marn, mae rhedeg rhywbeth fel y maes (falle) yn gwneud mwy o les i'r Gymraeg na dy waith pob dydd.............
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan nicdafis » Sul 12 Hyd 2003 2:36 pm

Wel yn sicr mae'n effeithio ar fwy o bobl!

Dw i ddim am geisio am grantiau achos does dim angen. Yr un peth am hysbysebion. Nid prinder arian yw fy mhroblem i, ond prinder amser.

Ar ei gorau, mae maes-e yn wych, a does dim unrhywle arall dw i'n joio cymaint. Ond ar ei gwaethaf, mae'n boring iawn, a fyddai wneud arian mas o'r peth ddim yn wneud e yn fwy diddorol.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan pogon_szczec » Sul 12 Hyd 2003 2:39 pm

nicdafis a ddywedodd:
Dw i ddim am geisio am grantiau achos does dim angen. Yr un peth am hysbysebion. Nid prinder arian yw fy mhroblem i, ond prinder amser.


Ecsentrig milioner wyt ti felly?
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan nicdafis » Sul 12 Hyd 2003 2:56 pm

Nage. Dwedais i nad yw prinder o arian yn broblem i fi - dydy hynny ddim yr un peth â dweud bod llawer o arian 'da fi. Dw i'n ennill llai o arian nawr nag o'n i 10 mlynedd yn ôl, ond dw i'n llawer hapusach achos dim ond dau ddydd a hanner yr wythnos dw i'n gorfod gweithio (ac hynny yn waith eitha dymunol).

Fyddai troi maes-e yn job ddim yn helpu. Dw i ddim moyn mwy o waith, dw i moyn mwy o hapusrwydd ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Sul 12 Hyd 2003 3:01 pm

O, ac os wyt ti'n poeni amdana i, gweithio am ddim yn pyllau halen Llangrannog, cei di <a href="http://www.amazon.co.uk/exec/obidos/registry/wishlist/026-9702680-1006064">brynu anrheg i fi</a> a chroeso. Neu hyd yn oed, <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=1565">prynu crys-T maes-e</a>.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Sul 12 Hyd 2003 4:46 pm

Os wyt ti am godi safon maes-e, Nic, postia'r edefyn canlynol yn y Blwch Tywod:

Os da chi lot yn cario 'malen y ffwlbri gwirion yma a ddim yn chwarae yn neis, mi wna i gau Maes-E i lawr am byth.

---------------------------------------

Fel un sy'n hoff iawn o Maes-E ac yn dod yma bob yn ail ddiwrnod mi fysai'n gas gennyf i ei weld o'n cau. Dwin siwr os fysai pawb yn deall faint o niwsans ydi nhw mi fysan nhw'n shapio fyny.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Gruff Goch » Sul 12 Hyd 2003 7:31 pm

Yn anffodus, gan fod llawer o'r maeswyr (fi yn gynwysiedig) yn cael mynediad ar i'r Maes yn y gweithle, mae'r amser y mae pobl yn fodlon rhoi i gynnal trafodaethau call yn gyfyngedig; haws cymryd rhan mewn trafodaeth 'ysgafn', di feddwl yn ystod dy amser paned na mynd ati i sgwennu llith gytbwys ar be sy'n bod efo iaith/crefydd/cymdeithas etc.

Efallai fod enw'r maes, 'Maes-E', hefyd yn denu to ifanc a llai parod i drafod pethau yn gall ac yn aeddfed na phetai'r lle wedi ei enwi'n E-Orsedd neu rhywbeth felly...

Wedi dweud hynny, ma'r lle yma'n rhyfeddol o ddiwylliedig a chwrtais i gymharu efo'r rhan fwyaf o negesfyrddau dwi 'di ymweld â nhw. Ma' pobl yn tueddu i fod yn llai cwrtais ar fforymau nac mewn bywyd go-iawn- llai o siawns o gael slap, debyg. ;)

Os nad wyt ti'n cîn ar y rwdlan, oes modd gwneud seiad arbennig lle nad wyt ti (nad oes neb?) yn gyfrifol am ei gynnwys, ac y gelli di ei anwybyddu? I fod yn onest, dwi'n meddwl ei bod hi'n werthfawr fod yna le i bobl rwdlan am bethau di-bwynt yn Gymraeg. Cadw hynny dan reolaeth ac osgoi achosion cyfreithiol/drwgdeimald ydi'r broblem. :(

Fasa pobl yn bihafio'n well tasa ti'n gorfodi nhw i ymaelodi dan eu enwau go-iawn (amhoblogaidd faswn i'n tybio)?

Unwaith eto Nic, diolch am dy amynedd!
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Nesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron