Codi safon maes-e

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhodri Nwdls » Sul 12 Hyd 2003 7:44 pm

Ti wastad yn mynd i gael pobol yn pisio o gwmpas a dwi wir ddim yn gwybod be alli di neud am hynna.

Dwi'n meddwl fasa creu stafell sgwrsio yn ysgafnhau y defnydd o'r maes ond fasa'n raid cael nifer o stafelloedd gwahanol gan fod un yn mynd i fod yn eitha crowded ag annodd iw ddilyn.

Dwi'm yn credu faswn i'n boddran efo fo fy hun deud gwir. Darllen y maes dwi'n hoffi fwya, a rhaid deud mod i'n bord braidd yn ddiweddar. Ia dwi'n clywad yr ymateb "Sticia bwnc trafod diddorol ta" ond ma'n siwr ma'r defnydd o'r lle fel lle sgwrsio ydi o.

Dwn im. Ma'r ru'n pobol dal am roi edefynnau ma nhw isio mewn os ti'n lleihau y nifer edefynnau y dydd. Ffyc it - IQ test cyn mynediad!...o na, faswn i off syth bin. Damia.

Tasa pobol yn anwybyddu edefynnau dwl ella fasa pobol yn stopio. Neu i'r cymedrolwyr jest dileu nhw neu gloi nhw. Onid hyn yw pwynt cymedrolwyr, ysgafnhau'r baich arnot ti i edrych ar ol y maes Nic? Rhagor o gymedrolwyr felly?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan pogon_szczec » Sul 12 Hyd 2003 8:46 pm

nicdafis a ddywedodd:Dw i'n ennill llai o arian nawr nag o'n i 10 mlynedd yn ôl, ond dw i'n llawer hapusach


Sori am newid y sgwrs unwaith eto trwy gyfeirio unwaith eto at bwnc flinedig gyfalafiaeth, ond mae meddylfryd da ti sy bach yn wahanol i fy un i.

Fy marn i yw .....

"Gem yw bywyd, ac arian yw'r ffordd yr ydym yn cadw sgor."

'Falle bo ti'n iawn. Falle bo ti ddim yn becso shwd gymaint ambwyti arian am nad wyt erioed di bod hebddo ..........

Ta waeth, os nad wyt ti'n or-hoff o'r stwff, gei di hala tipyn ata i?
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan RET79 » Sul 12 Hyd 2003 10:32 pm

pogon_szczecin a ddywedodd:Fy marn i yw .....

"Gem yw bywyd, ac arian yw'r ffordd yr ydym yn cadw sgor."

'Falle bo ti'n iawn. Falle bo ti ddim yn becso shwd gymaint ambwyti arian am nad wyt erioed di bod hebddo ..........


Shock horror! Mae RET yn anghytuno gyda pogon!!!!
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Cardi Bach » Llun 13 Hyd 2003 11:46 am

Sai'n gwbod wir...

el arfer odd sgyrsiau yn dod i ben yn naturiol...ar y mwya o'n nhw'n tua 80 neges, ond fel rheol yn tua 25-30 neges. Wrth gwrs ma mwy o aelodau nawr = mwy o farn...mewn theori, ond beth ni'n gal nawr (fi'n siarad yn benodol am bethau fel Gwleidyddiaeth a Iaith) yw polareiddio barn i'r fath raddau fel fod pawb yn gwrthod symud modefedd- fi'n enwedig (!) - ac wedyn mae sgwrs yn dieddol droi a throi mewn cylchoedd diflas heb fod dim byd ffresh yn cael ei ychwanegu.

Ar yr eiliad hon fi'n diflasu cyfrannu at rai o ddadleuon poethaf Gwleidyddiaeth am modi'n gwbod beth fydd yr ateb - sef yr un un a'r ateb i'r cyfraniad blaenorol i fi roi. Heb fod bai ar neb (?!), mae hyn yn digwydd. Mae'n rhaid dod a therfyn i rhai trafodaethau, neu i gyfrannwyr feddwl am neges fwy gwreiddiol rhyw-ffordd fydd yn adeiladu'r edefyn.

O ran 'chat' ma hyn yn fy niflasu rywfaint am nad yw'n berthnasol i 99% arall yr aelodaeth ac yn torri ar drafodaeth. Boring litl shit, ydw, ond na fe :winc: Hynny yw, amser wy'n gweld fod neges newy i drafodaeth ddifyr mae'n 'ecseiting' meddwl - reit beth newydd sydd wedi cael ei roi, pwy bwynt nad ydw i wedi rhagweld sydd am doi'r ddadl ar ei phen' a wedyn ma cyfraniad di-bwynt fel: "Ma pwrs fi'n biws" neu rwbeth.

Ond wrth gwrs ma'r Maes yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobol. I fi mae'n ffordd o finogi meddwl weithiau, ymestyn gwybodaeth, a deall fwy am bethau, tra'n mwynhau a chael hwyl (amser wedi ei 'wastraffu'n' adeiladol as opposed i wastraffu amser ffwl stop :winc:) . I eraill mae'n ffordd o gadw mewn cyswllt a chyfeilion.

Sai'n gwbod wir...
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan nicdafis » Llun 13 Hyd 2003 2:36 pm

Diolch i bawb am y sylwadau uchod. I ryw raddau problem bersonol fi yw e: dw i'n poeni amdano gormod. Swn i'n gallu bod yn fwy <i>laid back</i>, fyddwn i, coeliwch chi fi. ;-)


Gruff Goch a ddywedodd:Os nad wyt ti'n cîn ar y rwdlan, oes modd gwneud seiad arbennig lle nad wyt ti (nad oes neb?) yn gyfrifol am ei gynnwys, ac y gelli di ei anwybyddu? I fod yn onest, dwi'n meddwl ei bod hi'n werthfawr fod yna le i bobl rwdlan am bethau di-bwynt yn Gymraeg.


Yn y fersiwn newydd bondigrybwyll (na fydd gyda ni am sbel hir eto - o'n i'n meddwl erbyn y Dolig, ond dydy hynny ddim yn debyg) bydd yn bosib i gael seiat lle dydy'r negeseuon ddim yn cyfri tuag at yr ystadegau. Dw i'n rhagweld y bydd y Blwch Tywod yn rhan ar wahan i'r maes yn y dyfodol, lle caiff Ein Pobl Ifainc fynd ati a fydd dim rhaid i mi ymweld â'r lle o gwbl.

Un peth sydd yn fy mhoeni yw bod cyfryngis y cigfyd mor ddi-glem am sut mae'r we yn gweithio, y bydda i'n gweld maes-e ar glawr ffrynt Golwg neu'r Cymro un dydd gyda rhyw penawd dwp am gasineb ar y we, a fy enw i yn y paragraff cyntaf.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Llun 13 Hyd 2003 5:43 pm

Un peth sydd yn fy mhoeni yw bod cyfryngis y cigfyd mor ddi-glem am sut mae'r we yn gweithio, y bydda i'n gweld maes-e ar glawr ffrynt Golwg neu'r Cymro un dydd gyda rhyw penawd dwp am gasineb ar y we, a fy enw i yn y paragraff cyntaf
.

Da ni newyddiadurwyr wir yn evil, yn tydan? Dwin reit siwr neith hynny ddim digwydd, ddo. Mi fysa fo'n cymeryd slow news day go iawn i gael 'Sgandal Maes-E!' ar y tydalen flaen.

Os dach chi isho chat room cymraeg ewch i: http://aledrjones.me.uk/Siarad/default.asp
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Llun 13 Hyd 2003 9:02 pm

Wedi cywiro y ddolen uchod.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Chris Castle » Mer 15 Hyd 2003 8:20 am

Mae wefan Aled : http://aledrjones.me.uk/Siarad/default.asp wedi datrys y broblem dwi'n sicr.

Jyst gwneud yn siwr bod pobl yn gwybod amdani.

Un peth sydd yn fy mhoeni yw bod cyfryngis y cigfyd mor ddi-glem am sut mae'r we yn gweithio, y bydda i'n gweld maes-e ar glawr ffrynt Golwg neu'r Cymro un dydd gyda rhyw penawd dwp am gasineb ar y we, a fy enw i yn y paragraff cyntaf.


Paid phoeni Nic - fi fydd gyda ti y pryd 'ma :ofn: :?
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Chris Castle » Mer 15 Hyd 2003 8:41 am

Wedi dy erthygl (hynod o dda) yn y cylchgrawn Barn, efallai bydd pobl fwy gall na ni yn ymuno. -

Dwi wedi bod mewn canol nifer y problemau, a wedi dysgu oddi wrthyn nhw. Tebyg yw e bod pobl erill wedi gwneud yr un peth. Dylen ni, y sawl sydd wedi gweld y problemau codi yn y gorffennol, cadw llygad ar bethau a drio bwyllo pethau ar dy gyfer di Nic. - dwi wedi peidio bod yn eironig/sargastic/twp ayyb. siwr o fod gallai erill yn dysgu'r un gwers.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Nôl

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai