Yn anffodus, gan fod llawer o'r maeswyr (fi yn gynwysiedig) yn cael mynediad ar i'r Maes yn y gweithle, mae'r amser y mae pobl yn fodlon rhoi i gynnal trafodaethau call yn gyfyngedig; haws cymryd rhan mewn trafodaeth 'ysgafn', di feddwl yn ystod dy amser paned na mynd ati i sgwennu llith gytbwys ar be sy'n bod efo iaith/crefydd/cymdeithas etc.
Efallai fod enw'r maes, 'Maes-E', hefyd yn denu to ifanc a llai parod i drafod pethau yn gall ac yn aeddfed na phetai'r lle wedi ei enwi'n E-Orsedd neu rhywbeth felly...
Wedi dweud hynny, ma'r lle yma'n rhyfeddol o ddiwylliedig a chwrtais i gymharu efo'r rhan fwyaf o negesfyrddau dwi 'di ymweld â nhw. Ma' pobl yn tueddu i fod yn llai cwrtais ar fforymau nac mewn bywyd go-iawn- llai o siawns o gael slap, debyg.
Os nad wyt ti'n cîn ar y rwdlan, oes modd gwneud seiad arbennig lle nad wyt ti (nad oes neb?) yn gyfrifol am ei gynnwys, ac y gelli di ei anwybyddu? I fod yn onest, dwi'n meddwl ei bod hi'n werthfawr fod yna le i bobl rwdlan am bethau di-bwynt yn Gymraeg. Cadw hynny dan reolaeth ac osgoi achosion cyfreithiol/drwgdeimald ydi'r broblem.
Fasa pobl yn bihafio'n well tasa ti'n gorfodi nhw i ymaelodi dan eu enwau go-iawn (amhoblogaidd faswn i'n tybio)?
Unwaith eto Nic, diolch am dy amynedd!