Tudalen 2 o 5

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2009 7:49 pm
gan eusebio
Neu ella'r cwestiwn ydi pam bod angen unrhyw fath o radd? Yn enwedig pan fod un o'r graddau yn cwmpasu 9,000 o negeseuon!!!

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2009 7:52 pm
gan osian
sian a ddywedodd:Pam nad ydw i'n cael ymateb i'r edefyn Nodweddion Newydd Maes-e? Mae pobl erill wedi neud. :crio:

Dydw inna ddim chwaith.

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2009 8:15 pm
gan Duw
Mali a ddywedodd:Ydwi'n gweld pethau ....neu ddaru fy un i newid dros nôs o aur i cymedrolwr.


Do, roedd problem bo cymedrolwyr ddim yn ymddangos fel cymedrolwyr - jest defnyddwyr cyffredin. Es i'r gronfa ddata a'i newid. OK gobeithio (heb law am y ddelwedd!).
osian a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Pam nad ydw i'n cael ymateb i'r edefyn Nodweddion Newydd Maes-e? Mae pobl erill wedi neud. :crio:

Dydw inna ddim chwaith.


Dwi wedi gwirio cod y dudalen ac mae popeth yn edrych yn iawn. Fel mae'n digwydd mae ffordd hawdd i'w gyrraedd gyda botwm postio:

Hafan > Croeso i'r Maes! > Croeso a Chyfarchion > Cyhoeddiadau

Dwi'n meddwl bo hwn yn digwydd pan gaiff storfa (cache) y safle ei wyntyllu. Yn anffodus mae hwn yn rhan hanfodol ar hyn o bryd. Dyle pethe setlo cyn hir.

O ran delweddau, dwi wedi derbyn set newydd a gwnaf eu diweddaru'n fuan.

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2009 9:25 pm
gan Hedd Gwynfor
Mae maint y delweddau wedi lleihau, ond mae'r cynnig ar agor i unrhywun sydd gyda'r sgiliau perthnasol i gynnig set gwell (plis). Mae'r system Gradd yn rhan annatod o phpbb3 (a pob bwrdd trafod arall), ac yn weithredol ar bob pwrdd phpbb dwi wedi ymweld a nhw (a dwi wedi ymweld aa lot! :winc: ) felly mae'n rhaid bod rhywrai yn hoffi'r drefn.

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2009 10:53 pm
gan 7ennyn
Di-angen. Be yn union ydi'r pwynt felly?

O be wela i ar fforymau eraill ar y We, unig bwrpas graddau o'r fath ydi eithrio 'niwbs' a meithrin 'cliques'.

'Fight the Power!'

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2009 11:17 pm
gan Mali
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Mae maint y delweddau wedi lleihau


Ac yn edrych yn well ... :)

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2009 11:20 pm
gan Hedd Gwynfor
7ennyn a ddywedodd:Di-angen. Be yn union ydi'r pwynt felly?

O be wela i ar fforymau eraill ar y We, unig bwrpas graddau o'r fath ydi eithrio 'niwbs' a meithrin 'cliques'.

'Fight the Power!'


Mae graddau wastad wedi bod ar maes-e. Be ni wedi trio gwneud ydy amlygu'r drefn trwy nodi pryd roedd gradd newydd yn cael ei gyrraedd (h.y. ar ol faint o negeseuon). Ni hefyd wedi newid y delweddau. Roedd ser glas, wedyn ser coch, gyda'r cymedrolwyr yn cael 5 seren coch llachar. Ond cytuno fod y delweddau yma'n crap. plis cynigiwch rhai gwell. Does dim angen unrhyw destun ar y ddelwedd, gallau fod yn unrhywbeth mewn gwirionedd...

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2009 11:42 pm
gan 7ennyn
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Mae graddau wastad wedi bod ar maes-e.

Ai beg tw dyffar! Wnaeth y ser ddiflannu tua'r un pryd a'r system karma, n'do?

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2009 11:55 pm
gan eusebio
7ennyn a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Mae graddau wastad wedi bod ar maes-e.

Ai beg tw dyffar! Wnaeth y ser ddiflannu tua'r un pryd a'r system karma, n'do?


naddo, ond dwi dal ddim yn gweld pam na allwn ni fod wedi cadw'r sêr a spots ... pam fod rhaid cael rhywbeth gwahanol - yn enwedig gan fod 90% o ddefnyddwyr y maes yn mynd i fod yn Ddefnyddiwr Aur o dan y drefn newydd 'ma!

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Llun 23 Chw 2009 10:03 am
gan Hedd Gwynfor
eusebio a ddywedodd:dwi dal ddim yn gweld pam na allwn ni fod wedi cadw'r sêr a spots ... pam fod rhaid cael rhywbeth gwahanol - yn enwedig gan fod 90% o ddefnyddwyr y maes yn mynd i fod yn Ddefnyddiwr Aur o dan y drefn newydd 'ma!


Does dim rhaid bod yn wahanol, ond mae'n neis cal bach o amrywiaeth. Byddai'n ddflas iawn tase pob fforwm yn edrych union yr un fath.

O ran y drefn graddau, dim ond i esbonio mai'r unig beth sydd wedi newid yw'r lluniau. Mae'r drefn wedi bodoli ers blynyddoedd, ond roedd y gwahanol raddfeydd o negeseuon yn defnyddio delweddau gwahanol (sêr a smotiau)

Fel dwi wedi nodi cwpwl o weithiau, dwi'n falch IAWN i newid y delweddau i rhywbeth gwell,ond byddai'n well gen i ddefnyddio rhywbeth gwahanol i'r sêr a smotiau safonol,felly cynigiwch eich syniadau yma...