Tudalen 3 o 5

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Llun 23 Chw 2009 11:15 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
7ennyn a ddywedodd:
'Fight the Power!'

cytuno'n llwyr. i be sy isho dangos be di rhywun / faint ma nhw di gyfrannu yn y lle cynta? ddim ond er mwyn gneud i eraill deimlo allan ohoni. lol braidd, sori. x

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Llun 23 Chw 2009 2:27 pm
gan Hedd Gwynfor
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:
7ennyn a ddywedodd:
'Fight the Power!'

cytuno'n llwyr. i be sy isho dangos be di rhywun / faint ma nhw di gyfrannu yn y lle cynta? ddim ond er mwyn gneud i eraill deimlo allan ohoni. lol braidd, sori. x


Gweler uchod. nid rhywbeth newydd yw hyn. Yr unig beth sydd wedi newid yw cynnwys y delweddau. Mae nifer negeseuon y defnyddwyr, a rhyw ddelwedd i gyfleu hyn wedi ymddangos erioed, ers cychwyn maes-e. Cynigiwch ddelweddau gwell...

Gyda llaw, gwnaeth rhywun son am y system Carma uchod, oedd pobl o blaid neu yn erbyn y system hynny.

O ie, ac mae croeso i chi ddweud os ydych yn hoffi unrhyw rai o'r ategynnau/nodweddion eraill sydd wedi eu hychwanegu yn ystod yr wythnosau diwethaf hefyd. :winc: wybodaeth llawn yma - newydd.php

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Llun 23 Chw 2009 2:44 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
a bod yn deg, di o ddim di bod yna ers y dechra. ers peth amser, do, a di bod yr un mor wirion ar hyd y beit.

ond oedd y carma'n waeth... :winc:

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Llun 23 Chw 2009 8:33 pm
gan eusebio
Dwi ddim yn ymweld รข mwy na dau fwrdd phbb felly di ddiawl o ots gen i os yw'r graddfeydd yn debyg neu hyd yn oed yn union yr un fath ..!
A dwi eto i ddeall pwrpas y graddau newydd os yw pawb yn mynd i fod efo'r un fath ... h.y. Aur i bawb rhwng 1,000 a 9,999 o negeseuon!!!

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Llun 23 Chw 2009 9:32 pm
gan Duw
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:a bod yn deg, di o ddim di bod yna ers y dechra. ers peth amser, do, a di bod yr un mor wirion ar hyd y beit.

ond oedd y carma'n waeth... :winc:


Cytuno ynglyn a 'charma' - peth afiach yn gallu bod. Rhaid dweud o ran fforymau trafod (dwi'n aelod o ryw 10 erbyn hyn - amryw o feysydd), mae pob un ohonynt yn defnyddio graddau. Dwi'n meddwl bod hwn yn agwedd 'naturiol' o fyrddau, er wrth gwrs nid yw hwnna'n unrhyw ddadl i gadw'r peth.

Yn bersonol, stim byd 'da fi'n eu herbyn. Ai ydy'n cynnig cydnabyddiaeth am ffyddlondeb a chyfraniad i'r bwrdd? Neu ydy hyn yn hollol amherthnasol?

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Llun 23 Chw 2009 11:07 pm
gan osian
Ma'n sicr yn well wedi'i neud yn llai - dio'm yn mynd ar fy nerfa seis yna, ond ma'r ffaith bod o'n deud union r'un fath uwch ei ben o yn.

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Llun 23 Chw 2009 11:59 pm
gan Mali
Hei ....doeddwn i'm 'di gweld hwna . Tw reit ! :lol:

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Maw 24 Chw 2009 12:02 am
gan Duw
Drat, drat a drat dwblaidd! Mae gath allan o'r cwdyn Hedd!

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Maw 24 Chw 2009 9:52 am
gan Hedd Gwynfor
Rhain yn well? Cynnig dal yn agored i rhywun wneud rhai gwell...

Delwedd
Delwedd
Delwedd
Delwedd
Delwedd
Delwedd

Delwedd
Delwedd

Delwedd
Delwedd

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Maw 24 Chw 2009 12:49 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
nadi, 'chos ma' nhw dal yn ypstejo enw'r person. y pwynt ydi na'r person/rhithffurf sy'n bwysig, ac nid ei statws o fewn maes-e.

dwi'm yn gwbod pam bo' fi'n malio gymaint... :wps: