Tudalen 4 o 5

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Maw 24 Chw 2009 1:30 pm
gan Hogyn o Rachub
Ella fyddan nhw'n edrych yn well uwchben rhithffurfiau????

Rhaid i fi gytuno efo rhanfwyaf yma, maen nhw jyst yn rhy YNDYWYNAB fel hynna de

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Maw 24 Chw 2009 3:56 pm
gan Hedd Gwynfor
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:nadi, 'chos ma' nhw dal yn ypstejo enw'r person. y pwynt ydi na'r person/rhithffurf sy'n bwysig, ac nid ei statws o fewn maes-e.

dwi'm yn gwbod pam bo' fi'n malio gymaint... :wps:


:? Dwi ddim yn deall, mae hynny wedi bodoli erioed :? (h.y. cyfres o 'e' sydd nawr, lle'r oedd ser cynt). Neu y rhai 'Cymedrolwr' a 'Gweinyddwr' wyt ti'n feddwl?Dyw rhain ddim yn rhan o'r graddfeydd mewn gwirionedd, dimond yn nodi os yw rhywun yn Gymedrolwr neu Weinyddwr.

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Maw 24 Chw 2009 3:57 pm
gan Hedd Gwynfor
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Ella fyddan nhw'n edrych yn well uwchben rhithffurfiau????

Rhaid i fi gytuno efo rhanfwyaf yma, maen nhw jyst yn rhy YNDYWYNAB fel hynna de


Mae rhain yn wahanol iawn i'r rhai oedd cynt, roedd y rhai eraill llawer mwy YNDYWYNAB :winc:

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Maw 24 Chw 2009 7:22 pm
gan Kez
Ma'r gyfres o eeeeeeeeee jwst yn edrych yn dwp. Ma'n atgoffa fi o'r bathodyn yn Macdonalds pan ti'n cael ychwaegu ser ato yn ol faint o beefburgers ma rhywun wedi gwerthu.

Beth sy'n bod ar jwst cal rhywbeth i'r gweinyddwyr a'r cymedrolwyr a gadael i'r bobol gyffredin fod :)

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Maw 24 Chw 2009 7:34 pm
gan Duw
Be byddet yn awgrymu Kez?

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Maw 24 Chw 2009 7:47 pm
gan Kez
Duw a ddywedodd:Be byddet yn awgrymu Kez?


Jwst cal be sy' na'n barod nawr - am y cymedrolwyr a'r gweinyddwyr - ond stim angen dim byd ar gyfer neb arall. Sim eisiau creu mwy o hierarchaeth na be sydd 'i angen, o's e.

Ma pob un o' ni'n gallu malu cachu a sdim rhaid gwobrwyo'r rhai mwya cynhyrchiol :)

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Maw 24 Chw 2009 8:03 pm
gan Hedd Gwynfor
Kez a ddywedodd:Ma'n atgoffa fi o'r bathodyn yn Macdonalds pan ti'n cael ychwaegu ser ato yn ol faint o beefburgers ma rhywun wedi gwerthu.


Dyna beth oedd cynt! :ofn:

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Maw 24 Chw 2009 8:07 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
Hedd Gwynfor a ddywedodd: :ofn:

hedd druan. dwi di newid 'yn meddwl. dwi wrth fy modd efo nhw. 8)

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Maw 24 Chw 2009 8:13 pm
gan Kez
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Kez a ddywedodd:Ma'n atgoffa fi o'r bathodyn yn Macdonalds pan ti'n cael ychwaegu ser ato yn ol faint o beefburgers ma rhywun wedi gwerthu.


Dyna beth oedd cynt! :ofn:


Twel - on nhw ddim yn lico fe chwaith.

Ma blynydda odd ar ifi witho 'na, a fyswn i byth yn mynd miwn 'na'r dyddia heddi i fyta'r shit, so be' man nhw'n iwso nawr i gal y staff i wyrthu rhagor o Big Macs? Fysa fe ddim yn digwdd bod yn 'gwerthwr efydd, arian, aur a phlatiniwm - does bosibl :)

Re: Graddau

PostioPostiwyd: Mer 04 Maw 2009 1:28 pm
gan eusebio
Nes i ddim sylwi bod na wahaniaeth i bob un o'r bathodynau e ...!

Cytuno efo pwy bynnag ddwedodd pam bod angen unrhyw fath o radd ... dwi ddim yn hoffi'r CYMEDROLWR mawr na o gwbwl!

Onid ffidlan er mwyn ffidlan ydi peth fel hyn ac mai'r peth mwyaf ddylai fod yn cael ei drafod ydi sut i ddenu defnyddiwyr yn ôl i faes-e?