Mwy o hysbysebu gigs!

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mwy o hysbysebu gigs!

Postiogan Orcloth » Gwe 17 Ebr 2009 2:44 pm

Ella mai jest fi ydi o, ond mae na ormod o hysbysebu gigs (am ddim - yr hysbys, ddim y gig, ffwl) yn mynd ymlaen! Ti'n chwilio am bwnc diddorol, a'r unig beth weli di ydi rhes o hysbysebion gigs, sydd yn gwthio'r pynciau fysa rhywun yn licio'u darllen draw o'r ffordd!
Dwi'n meddwl bysa tudalen arbennig i'r gigs ac un i'r pynciau trafod, fod yn syniad go dda, fel bod pobol sydd hefo dim diddordeb o gwbwl mewn gigiau allu'u hosgoi'n gyfan-gwbwl! :x
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Mwy o hysbysebu gigs!

Postiogan Duw » Gwe 17 Ebr 2009 3:18 pm

Dwi ddim yn meddwl bo ffordd o osgoi hyn OC. Dwi'n cydymdeimlo - dim diddorden gen i chwaith. Os wyt yn mynd i Pynciau Bywiog, dylet weld tua 5 tudalen o bynciau. Rwyt yn ymwelydd ffyddlon ac felly dylet gael gafel ar y rhai diweddaraf yn go gyflym. Bues i bant am wythnos a des o hyd i bob pwnc bywiog erbyn y 3ydd/4ydd tudalen.

Serch hynny, dwi ddim yn meddwl dyma'r lle gore i ti bostio'r cwyn! :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Mwy o hysbysebu gigs!

Postiogan osian » Gwe 17 Ebr 2009 3:36 pm

Ma'r un fath o bawb am rwbath neu gilydd. Os ti'n casau chwaraeon er enghraifft ma gin ti lot o edefynau am bel droed a rygbi yn dod i fyny bob tro. Ffordd handi i safio chdi orfod mynd drwy bob seiat ydi'r dudalan negeseuon newydd.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Mwy o hysbysebu gigs!

Postiogan Orcloth » Gwe 17 Ebr 2009 3:56 pm

Osian - ond os ti'n mynd i'r lle "negeseuon newydd" mi gei di'r gigs yn fan'no hefyd.
Duw - dwi'n gwybod y byswn i'n medru ffendio pynciau diddorol os fyswn i'n chwilio drwy'r tudalennau "pynciau bywiog" i gyd, ond bysa bywyd dipyn haws os na fyswn i'n gorfod chwilio drwy'r holl hysbysebion cyn ffendio rhywbeth diddorol. Sori, ond to'n i'm yn gwybod lle arall i roi fy nhgwyn!
o.n. Duw - croeso'n ol i chdi ar ol dy wyliau - aethoch i rhywle neis?
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Mwy o hysbysebu gigs!

Postiogan Heddwyn TM » Gwe 17 Ebr 2009 6:47 pm

'Dwi ddim yn deall be 'di'r problem. Ti'n gwasgu ar "gigs" i weld pa gigs sy' mlaen, "cerddoriaeth cyfoes Cymraeg" i trafod cerddoriaeth cyfoes Cymraeg, ayyb.

Beth arall sy' fod dan pwnc "gigs" na sioeau gyda bandiau yn chwarae?
Heddwyn TM
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Maw 22 Gor 2008 3:03 pm

Re: Mwy o hysbysebu gigs!

Postiogan Duw » Gwe 17 Ebr 2009 6:58 pm

Orcloth a ddywedodd:Osian - ond os ti'n mynd i'r lle "negeseuon newydd" mi gei di'r gigs yn fan'no hefyd.
Duw - dwi'n gwybod y byswn i'n medru ffendio pynciau diddorol os fyswn i'n chwilio drwy'r tudalennau "pynciau bywiog" i gyd, ond bysa bywyd dipyn haws os na fyswn i'n gorfod chwilio drwy'r holl hysbysebion cyn ffendio rhywbeth diddorol. Sori, ond to'n i'm yn gwybod lle arall i roi fy nhgwyn!
o.n. Duw - croeso'n ol i chdi ar ol dy wyliau - aethoch i rhywle neis?


Dwi ddim yn gwybod sut fydden i'n gosod 'hidlydd' ar y pynciau bywiog i hidlo allan seiade arbennig - gallaf edrych mewn iddo, er bydde angen sicrhau bod y hidlydd yn gallu cael ei osod felly bod pobl yn gallu hidlo allan seiade o'u dewis. Bydd angen cryn dipyn o dincro gyda'r cod i alluogi hyn - dwi'm gwybod a fydde defnyddwyr eraill am weld yr elfen hon?

A do - aethom i Center Parcs - angen gwylie i ddod drod y peth nawr!
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Mwy o hysbysebu gigs!

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 17 Ebr 2009 7:26 pm

Bois bach, chi'n bell tu ol i'r amser. Mae hyn wedi ei drafod a'i ddatrys nôl yn Ionawr 2008! ;-)

viewtopic.php?f=42&t=24797
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Mwy o hysbysebu gigs!

Postiogan Duw » Gwe 17 Ebr 2009 8:57 pm

Da iawn Hedd (gwaith isod wedi seilio ar waith blaenorol Hedd a Nic Dafis). Ond meddwl o'n ni sut i gael rhyw fath o hidlydd ar y dudalen ei hun. Gwnaf feddwl amdani a chysylltaf.

Eniwei OC: er mwyn tynnu seiat cerddoriaeth allan yn gyfan gwbl o pynciau bywiog dyma'r linc:

pynciau bywiog heb gerddoriaeth,
sef:

Cod: Dewis popeth
http://maes-e.com/search.php?search_id=active_topics&author=&fid%5B%5D=79&fid%5B%5D=6&fid%5B%5D=84&fid%5B%5D=13&fid%5B%5D=83&fid%5B%5D=82&fid%5B%5D=81&fid%5B%5D=85


os welltet negeseuon newydd:
negeseuon newydd heb gerddoriaeth,
sef:

Cod: Dewis popeth
http://maes-e.com/search.php?search_id=newposts&author=&fid%5B%5D=79&fid%5B%5D=6&fid%5B%5D=84&fid%5B%5D=13&fid%5B%5D=83&fid%5B%5D=82&fid%5B%5D=81&fid%5B%5D=85



ER, os wyt ond am hidlo allan y seiat hwn (clywed y tyt tyts yn barod!), dyma'r dolenni a'r codau:


pynciau bywiog heb gigs yn unig

sef

Cod: Dewis popeth
[url=http://maes-e.com/search.php?search_id=active_topics&author=&fid%5B%5D=79&fid%5B%5D=6&fid%5B%5D=84&fid%5B%5D=13&fid%5B%5D=83&fid%5B%5D=82&fid%5B%5D=81&fid%5B%5D=85&fid%5B%5D=5&fid%5B%5D=40&fid%5B%5D=41


negeseuon newydd heb gigs yn unig

sef

Cod: Dewis popeth
[url=http://maes-e.com/search.php?search_id=newposts&author=&fid%5B%5D=79&fid%5B%5D=6&fid%5B%5D=84&fid%5B%5D=13&fid%5B%5D=83&fid%5B%5D=82&fid%5B%5D=81&fid%5B%5D=85&fid%5B%5D=5&fid%5B%5D=40&fid%5B%5D=41


Am nawr gellid bwyso'r ddolen o'th dewis a chadw'r ddolen fel nod (bookmark) yn dy borwr. Gallet hyd yn oed ei gadw fel dy 'homepage'.

Yr unig peth yw wedyn - ni welid unrhyw negeseuon newydd ar yr edefyn hon!!! :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai