Hidlo seiadau wrth chwilio negeseuon

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hidlo seiadau wrth chwilio negeseuon

Postiogan Duw » Sul 19 Ebr 2009 10:43 pm

Yn dilyn ymholiad (diolch Orcloth), a chyfeiriad i waith cynt gan Hedd a Nic Dafis, ro'n i'n meddwl byddai'n syniad da i rannu'r wybodaeth ar sut i hidlo (allan) seiadau o negeseuon newydd neu pynciau bywiog.

Yn gyffredinol, os ydych am negeseuon newydd, dyma'r url:

http://maes-e.com/search.php?search_id=newposts

Am bynciau bywiog:

http://maes-e.com/search.php?search_id=active_topics

HIDLO
Os ydych am hidlo allan rhai seiadau, e.e. gigs neu chwaraeon ac ati, mae angen ychwanegu paramedrau i'r url, fel hyn:

Dyma'r holl brif seiadau:

Cod: Dewis popeth
http://maes-e.com/search.php?search_id=active_topics&author=&fid%5B%5D=79&fid%5B%5D=80&fid%5B%5D=6&fid%5B%5D=84&fid%5B%5D=13&fid%5B%5D=83&fid%5B%5D=82&fid%5B%5D=81&fid%5B%5D=85


Os ydych am dynnu rhai ohonynt, tynnwch y &fid%5B%5D=XX priodol allan (gweler isod am rifau penodol).

Prif Seiadau (cywir ar y dyddiad hwn)
Croeso i'r maes = 79
Cerddoriaeth = 80
Chwaraeon = 6
Cyfrifiaduron = 84
Digwyddiadau = 13
Iaith = 83
Materion Cyfoes = 82
Pair y Pethe = 81
Cylchoedd Defnyddwyr = 85

e.e. os ydych am dynnu Cylchoedd Defnyddwyr a Cerddoriaeth o Bynciau Bywiog, byddech yn tynnu &fid%5B%5D=85 a &fid%5B%5D=80 o'r url uchod i roi:

Cod: Dewis popeth
http://maes-e.com/search.php?search_id=active_topics&author=&fid%5B%5D=79&fid%5B%5D=6&fid%5B%5D=84&fid%5B%5D=13&fid%5B%5D=83&fid%5B%5D=82&fid%5B%5D=81


Os am negesuon newydd, newidiwch 'active_topics' i 'newposts'.

Nawr am y stwff 'lletchwith' - tynnu is-seiad.

Os ydych ond am dynnu is-seiad, bydd angen cynnwys pob is-seiad arall o'r brif seiad ac anwybyddu'r un/rhai rydych am eu heithrio, hefyd ni fyddwch yn cynnwys y brif seiad yn yr url.

Rhestr is-seiadau
Croeso i'r Maes: Croeso = 14, Defnyddio = 42,Datblygu = 4, Hysbysebu = 64
Cerddoriaeth: Cyfoes = 5,Gigs = 32, Gweddill y Byd = 50, Cell Gymysg = 41
Cyfrifiaduron: Ar Goll = 10, Dylunio = 15, Rhithfro = 23, Gemau = 18
Iaith: Dyfodol = 3, Defnydd = 38, Eraill = 31, Cell Gymysg = 37
Materion Cyfoes: Cymru = 12, Prydain = 28, Byd = 30, Amgylchedd = 20, Rhyfel = 19, Ffydd = 25, Cell Gymysg = 34
Pair y Pethe: Bwyd = 26, Cell Gymysg = 16, Llenyddiaeth = 9, Ffilmiau = 8, Crwydro = 45, Siop Pete = 22, Pump = 74, Cymry = 72, Swyddi = 86
Cylchoedd Defnyddwyr = Cyntedd = 50, Cerddoriaeth = 17, Cymedrolwyr = 21, Plaid Cymru = 24, Blwch = 43, Llywio = 44, Y Fynwent = 48, Cymdeithas yr Iaith = 47, Barddorol = 49, Larseniaid = 53, Berllan = 54, Ffansin = 56, Fforymau = 58, Ffasiwn Lol = 60, Menter = 61, Ffoto = 62, Gwyddoniaeth = 67, Hanes = 68, English = 70, Poker = 71, Corlan = 73, Magu = 75, Cristion = 78, Chwaraeon = 87, Athrawon = 88.

e.e. tynnu gigs o Bynciau bywiog:

bydd angen newid '80' i gynnwys pob is-seiad o gerddoriaeth ond am '32'

Felly newid hyn:

Cod: Dewis popeth
http://maes-e.com/search.php?search_id=active_topics&author=&fid%5B%5D=79&fid%5B%5D=80&fid%5B%5D=6&fid%5B%5D=84&fid%5B%5D=13&fid%5B%5D=83&fid%5B%5D=82&fid%5B%5D=81&fid%5B%5D=85


i:

Cod: Dewis popeth
http://maes-e.com/search.php?search_id=active_topics&author=&fid%5B%5D=79&fid%5B%5D=5&fid%5B%5D=50&fid%5B%5D=41&fid%5B%5D=6&fid%5B%5D=84&fid%5B%5D=13&fid%5B%5D=83&fid%5B%5D=82&fid%5B%5D=81&fid%5B%5D=85



Gallwch gadw'r url hwn fel nod tudalen (bookmark), felly gallwch ei ddefnyddio'n hawdd.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Hidlo seiadau wrth chwilio negeseuon

Postiogan sian » Llun 20 Ebr 2009 8:58 am

Diolch Duw - edrych fel dy fod ti wedi rhoi lot o amser i wneud hynna ar ddiwrnod braf!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor


Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron