Tudalen 1 o 2

maes-e now available in English!

PostioPostiwyd: Iau 27 Awst 2009 2:33 pm
gan Hedd Gwynfor
Wel, ddim i ddweud y gwir, ond mae'n ddiddorol iawn gweld sut mae Google Translate yn cyfieithu rhai o gyfraniadau defnyddwyr y maes :lol:

Ewch i bori maes-e yn Saesneg yma

Re: maes-e now available in English!

PostioPostiwyd: Iau 27 Awst 2009 3:18 pm
gan Hogyn o Rachub
Potato of Rachub!!!

Be ffowc???!?! Dwi'n actiwli teimlo fel bod y blydi peth wedi'n sarhau i! :lol:

[I fod yn hollol deg, mae'r ffordd mae hwn yn ei gyfieithu i'r Saesneg yn darllen fel dwi'n siarad Saesneg!]

Re: maes-e now available in English!

PostioPostiwyd: Iau 27 Awst 2009 9:14 pm
gan Seonaidh/Sioni
Google Translate a ddywedodd:What Fawkes ???!?! I actiwli feel like the bloody thing to have been insulted

Na chdi!

Re: maes-e now available in English!

PostioPostiwyd: Iau 27 Awst 2009 10:45 pm
gan Kez
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Potato of Rachub!!!

Be ffowc???!?! Dwi'n actiwli teimlo fel bod y blydi peth wedi'n sarhau i! :lol:

[I fod yn hollol deg, mae'r ffordd mae hwn yn ei gyfieithu i'r Saesneg yn darllen fel dwi'n siarad Saesneg!]


Wi'n ffillu diall shwt geson ni 'Potato of Rachub' mas o 'Hogyn o Rachub' ond ma fe wedi neud ifi wyrthin ta p'un i!!

Ma hwn yn well na'r cyfraniadau gwreiddiol - 'blaw am rai fi wrth gwrs :winc:

Re: maes-e now available in English!

PostioPostiwyd: Gwe 28 Awst 2009 10:00 am
gan Orcloth
Ha, ha, blydi ha!!!! Ydi'n Ebrill y 1af ta be??? Be ydi'r pwynt o'r hanner-gyfeithu i'r saesneg, gneud i ni swnio fel idiots - mae fy nyfyniadau i 'n gneud i mi swnio'n stiwpid! Ydyn nhw'n trio gneud i ni edrach fatha ffyliaid - fyswn i'n deud eu bod wedi llwyddo! Toes dim cyfieithddwyr go iawn ganddyn nhw, mae'n rhaid, dim ond rhai sy'n licio cymryd y pis! :wps: :crio: :rolio:

Re: maes-e now available in English!

PostioPostiwyd: Gwe 28 Awst 2009 10:44 am
gan Llefenni
Orcloth a ddywedodd:Ha, ha, bloody ha!! Ydi'n Ebrill y 1af ta be??? Ydi'n April 1st ta be??? Be ydi'r pwynt o'r hanner-gyfeithu i'r saesneg, gneud i ni swnio fel idiots - mae fy nyfyniadau i 'n gneud i mi swnio'n stiwpid! What is the point of the half-gyfeithu English, gneud us sound like idiots - my nyfyniadau to our gneud to me sounds stiwpid! Ydyn nhw'n trio gneud i ni edrach fatha ffyliaid - fyswn i'n deud eu bod wedi llwyddo! Are they trying gneud us edrach fatha ffyliaid - fyswn'm saying that they have succeeded! Toes dim cyfieithddwyr go iawn ganddyn nhw, mae'n rhaid, dim ond rhai sy'n licio cymryd y pis! Cyfieithddwyr no real dough they must, only those who like to take the PIs! :wps::crio::rolio:


Hwna'n ardderchog! Eitha swrreal tho.. :?

Re: maes-e now available in English!

PostioPostiwyd: Gwe 28 Awst 2009 2:17 pm
gan ami
Eitha diddorol.

Rhoes i eiriau Hen Wlad Fy Nhadau i'r program. Mae'n ymddangos ei fod e'n gadael yn y ffurf wreiddiol pob gair nad yw'n ei ddeall, ac yn anffodus "mad" yw un ohonyn nhw.

it gwrol warriors, while mad gwladgarwyr
their blood for freedom gollasant


Ond dysgwr ydw i, felly mae posibilrwydd cryf bod y pot hwn yn galw'r tegell yn ddu...

Re: maes-e now available in English!

PostioPostiwyd: Gwe 28 Awst 2009 3:17 pm
gan Hogyn o Rachub
Ddim o Faes E ond o wefan Golwg360- wedi gwneud i mi chwerthin beth bynnag!! :lol:

Re: maes-e now available in English!

PostioPostiwyd: Gwe 28 Awst 2009 3:47 pm
gan Hazel
Efallai fod chi i gyd yn llethu ei feddwl fe? :ing:

Re: maes-e now available in English!

PostioPostiwyd: Gwe 28 Awst 2009 6:15 pm
gan dafydd
Tir Newydd = Newfoundland :)

Dwi wedi mynd trwy lawer o storïau newyddion Cymraeg heddiw ar Golwg a'r BBC yn cynnig gwelliannau i'r cyfieithiadau, felly gobeithio fydd hynny yn helpu gwella pethau. Y mwya o bobl sy'n gwneud, y gorau fydd.