Dwi wedi mynd trwy lawer o storïau newyddion Cymraeg heddiw ar Golwg a'r BBC yn cynnig gwelliannau i'r cyfieithiadau, felly gobeithio fydd hynny yn helpu gwella pethau. Y mwya o bobl sy'n gwneud, y gorau fydd.
Mae'n anodd iawn i'r system gyfieithu yn gywir o fforymau drafod fel maes-e wrth gwrs, gan fod pobl fel arfer yn ysgrifennu'n dafodieithol. Mae hyn yn wir pan yn cyfieithu rhwng yr holl ieithoedd mwy na thebyg. Dylai fod yn haws cyfieithu pethau fel straeon o wefan y BBC, Golwg, Guardian ayb...
Dw i ddim yn deall llawer amdani ond dw i'n meddwl. Efallai y bai ydy, does dim dychymyg gan beiriant. Felly, nid all o'n gwneud addasiadau ar ôl cyfieithiad llythrennol. Bendith ar y meddwl dynol!
Hazel
Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)