Tudalen 2 o 2

Re: maes-e now available in English!

PostioPostiwyd: Gwe 28 Awst 2009 3:47 pm
gan Hazel
Efallai fod chi i gyd yn llethu ei feddwl fe? :ing:

Re: maes-e now available in English!

PostioPostiwyd: Gwe 28 Awst 2009 6:15 pm
gan dafydd
Tir Newydd = Newfoundland :)

Dwi wedi mynd trwy lawer o storïau newyddion Cymraeg heddiw ar Golwg a'r BBC yn cynnig gwelliannau i'r cyfieithiadau, felly gobeithio fydd hynny yn helpu gwella pethau. Y mwya o bobl sy'n gwneud, y gorau fydd.

Re: maes-e now available in English!

PostioPostiwyd: Gwe 28 Awst 2009 6:38 pm
gan Hazel
Mae gen i lwc da ond mae fy mrawddegau'n syml. O Saesneg i Gymraeg, dw i'n dweud. Dim lwc efo Cymraeg i Saesneg.

Dywedodd hynny, dydyw o ddim i ddysgwyr newydd. Yn gywir?

Re: maes-e now available in English!

PostioPostiwyd: Sad 29 Awst 2009 3:37 am
gan Mali
Mawredd mawr ....diolch am y laff ! :lol:

Well, you want ddeutha us how things went? :winc:
o fforwm Cymru ar Wasgar.

Re: maes-e now available in English!

PostioPostiwyd: Maw 01 Medi 2009 9:06 am
gan Hedd Gwynfor
Mae'n anodd iawn i'r system gyfieithu yn gywir o fforymau drafod fel maes-e wrth gwrs, gan fod pobl fel arfer yn ysgrifennu'n dafodieithol. Mae hyn yn wir pan yn cyfieithu rhwng yr holl ieithoedd mwy na thebyg. Dylai fod yn haws cyfieithu pethau fel straeon o wefan y BBC, Golwg, Guardian ayb...

Re: maes-e now available in English!

PostioPostiwyd: Mer 02 Medi 2009 2:05 am
gan Hen Rech Flin
Yr wyf wedi ceisio cael cyfieithiad o'r peiriant o Salm 23 y Beibl Cymraeg Newydd:

Yr ARGLWYDD yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.
Gwna imi orwedd mewn porfeydd breision, a thywys fi gerllaw dyfroedd tawel,
ac y mae ef yn fy adfywio. Fe'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.
Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed, oherwydd yr wyt ti gyda mi, a'th wialen a'th ffon yn fy nghysuro.
Yr wyt yn arlwyo bwrdd o'm blaen yng ngwydd fy ngelynion; yr wyt yn eneinio fy mhen ag olew; y mae fy nghwpan yn llawn.
Yn sicr, bydd daioni a thrugaredd yn fy nilyn bob dydd o'm bywyd, a byddaf yn byw yn nhŷ’r ARGLWYDD weddill fy nyddiau.


Dyma'r ymateb:

The LORD is my mugail, we will want me.
Do makes me lie in pastures and quiet waters nearby to guide me,
and he is in my regeneration. I was led along the paths of justice to its name.
Although I walk through the valley of dark black, not ofnaf any harm, because of you with me, thy rod and your stick in my nghysuro.
You catering ngwydd table before me in my ngelynion; you anointed my head with oil; that my cup is full.
Certainly, the goodness and mercy in my nilyn every day of my life and I live in the House LORD rest of my days.


Difyr yw'r thy rod. Amgrwm bod rhywfaint o wybodaeth Feiblaidd yn y system yn barod?

Dyma gyfieithiad yr English Standard Version (sef y cyfieithiad Saesneg agosaf at y BCN o ran ieithwedd a ffynonellau gwreiddiol), yr wyf wedi ei gynnig fel well gyfieithiad
i'r peiriant.

The LORD is my shepherd; I shall not want.
He makes me lie down in green pastures. He leads me beside still waters.
He restores my soul. He leads me in paths of righteousness for his name's sake.
Even though I walk through the valley of the shadow of death, I will fear no evil, for you are with me; your rod and your staff, they comfort me.
You prepare a table before me in the presence of my enemies; you anoint my head with oil; my cup overflows.
Surely goodness and mercy shall follow me all the days of my life, and I shall dwell in the house of the LORD forever.


Yr wyf hefyd wedi cynnig y cyfan o Efengyl Marc yr ac yr wyf wrthi'n mynd trwy'r holl Salmau gan ddefnyddio'r ESV fel well gyfieithiad i'r rhaglen.

Gan fod y BCN a'r ESV ar gael i'w lawr lwytho trwy raglen E-sword, mater o gopïo a phastio ydyw! Byddai modd trwy ddyfal parhad dros fis neu ddwy cynnig y cyfan o'r BCN / ESV i'r rhaglen. Ond nid ydwyf am wneud hynny eto.

Yr hyn yr wyf am wneud yw disgwyl am fis neu ddau i weld os ydy safon y cyfieithu yn gwella parthed Salm 23. Os ydyw, mi af ati i ddanfon gweddill y Beibl i'r rhaglen a sganio nifer o destunau duplex eraill sydd gennyf yma. Mae nifer ar gael. Cannoedd o lyfrau plant, nofelau Marion Eames, straeon Kate Roberts, barddoniaeth Dafydd ap Gwilym, cynigion cyfieithu ar Rootsweb a Rootschat ac ati, ac ati.

Ond cyn torri bol trwy wario oriau yn cynnig gwelliannau, hoffwn gael sicrwydd bod yr ychydig wedi dwyn ffrwyth yn gyntaf!

Re: maes-e now available in English!

PostioPostiwyd: Mer 02 Medi 2009 7:40 am
gan sian
Hen Rech Flin a ddywedodd:Yr hyn yr wyf am wneud yw disgwyl am fis neu ddau i weld os ydy safon y cyfieithu yn gwella parthed Salm 23. Os ydyw, mi af ati i ddanfon gweddill y Beibl i'r rhaglen a sganio nifer o destunau duplex eraill sydd gennyf yma. Mae nifer ar gael. Cannoedd o lyfrau plant, nofelau Marion Eames, straeon Kate Roberts, barddoniaeth Dafydd ap Gwilym, cynigion cyfieithu ar Rootsweb a Rootschat ac ati, ac ati.


Difyr! Ond mae'n gwestiwn pa mor ddefnyddiol bydd straeon Kate Roberts a barddoniaeth Dafydd ap Gwilym wrth gyfieithu defnyddiau heddiw.
Yn ddelfrydol, gyda chorpws enfawr, mae'n siwr y byddai'r peiriant yn gallu 'dewis' ei gywair ond a fydd y corpws yn ddigon mawr?
Mae gan lawer o gyfieithwyr gof cyfieithu ond swn i'n tybio y bydd rheolau diogelu data yn golygu na allan nhw eu cynnig i Google - hyd yn oed tasen nhw'n dymuno gwneud hynny.

O'n i'n rhyw hanner disgwyl "in the goose of my enemies".

Mae fel pe bai'n cael chydig o drafferth â'r treiglad trwynol ar hyn o bryd.

Re: maes-e now available in English!

PostioPostiwyd: Mer 02 Medi 2009 12:06 pm
gan Hazel
Dw i ddim yn deall llawer amdani ond dw i'n meddwl. Efallai y bai ydy, does dim dychymyg gan beiriant. Felly, nid all o'n gwneud addasiadau ar ôl cyfieithiad llythrennol. Bendith ar y meddwl dynol!