Tudalen 1 o 2

Ymweled â Maes-e

PostioPostiwyd: Mer 02 Medi 2009 4:28 pm
gan Hazel
Ydy hi'n fy nghyfrifiadur? Unwaith, weithiau dwywaith, y dydd, dw i ddim yn gallu agor Maes-e. Mae o'n dechrau ond wedyn mae o'n atal. Dydy o ddim yn agor o gwbl. Dw i wedi ceisio "Stop/Refresh" ond ddaw hi ddim. Galla' i fynd i bob man arall ond dim Maes-e.
Ydy 'na rhywbeth fy mod i'n gallu ei gwneud hi? Diolch.

Re: Ymweled â Maes-e

PostioPostiwyd: Mer 02 Medi 2009 5:28 pm
gan sian
Aha! Dw i'n cael y broblem yma hefyd. O'n i'n meddwl mai ar fy nghyfrifiadur i neu fy nghysylltiad i â'r rhyngrwyd yr oedd y broblem gan nad oedd neb arall wedi sôn amdani. Mae'n broblem ers rhai wythnosau.

Re: Ymweled â Maes-e

PostioPostiwyd: Mer 02 Medi 2009 6:08 pm
gan Duw
Dito. Dwi'n meddwl ei fod lawr i'r gwesteiwr gwe. Posib ei fod lawr i 'traffic' uchel ar y gweinydd. Dwi'n sylwi bod hwn yn digwydd gyda'r nos - posib byddai hyn yn cyfateb i gyfnodau defnydd uchel yr UDA. Câf air 'da Hedd.

Ydy hyn yn digwydd yn ystod y dydd 'da ti Hazel?

Unrhyw un arall wedi sylwi ar hyn?

GOLYGU
Hah! Cefais broblem y diawl yn postio'r neges 'ma - popeth yn rhewi.

Re: Ymweled â Maes-e

PostioPostiwyd: Mer 02 Medi 2009 6:38 pm
gan Hazel
Duw a ddywedodd:Dito. Dwi'n meddwl ei fod lawr i'r gwesteiwr gwe. Posib ei fod lawr i 'traffic' uchel ar y gweinydd. Dwi'n sylwi bod hwn yn digwydd gyda'r nos - posib byddai hyn yn cyfateb i gyfnodau defnydd uchel yr UDA. Câf air 'da Hedd.

Ydy hyn yn digwydd yn ystod y dydd 'da ti Hazel?

Unrhyw un arall wedi sylwi ar hyn?

GOLYGU
Hah! Cefais broblem y diawl yn postio'r neges 'ma - popeth yn rhewi.


Mae'n ddiddorol bod chi'n dweud "gyda'r nos" achos bod hi'n digwydd yma dros y p'nawn fel arfer. Tua 4.00 i 6.00 PM sydd yn 'nos' draw fan'na. Fel arfer. Serch hynny, heddiw, am y dro cyntaf, roedd hi'n digwydd yn y bore, tua 5.00 i 6.00 AM sydd yn canol dydd draw fan'na. Hefyd, cefais broblem yn postio'r negeseuon heddiw hefyd.

Ydy, Sian, ers rhai wythnosau. Yn awr, dw i'n falch mod i'n dweud rhywbeth. Roeddwn i'n meddwl a oedd fy nghyfrifiadur hefyd.

Re: Ymweled â Maes-e

PostioPostiwyd: Iau 03 Medi 2009 11:24 am
gan Seonaidh/Sioni
O'r annwyl! Pobl yn DEFNYDDIO Maes-e? Rhaid rhoi stop ar hynny ar unwaith! Ddim yn cofio a ddigwyddodd i finnau ai peidio -one dw i ddim yn mynychu'r seit cyn amled, a deud y gwir.

Re: Ymweled â Maes-e

PostioPostiwyd: Sul 06 Medi 2009 9:44 pm
gan Hazel
O'r gorau. Efallai fod chi wedi gweld hyn ond, os ydy hi'n cynorthwyo, dyma yw y gwall-neges y dw i'n derbyn pan dw i'n ceisio i fyned i mewn Maes-e.


General Error
SQL ERROR [ mysql4 ]

Can't connect to local MySQL server through socket '/var/lib/mysql/mysql.sock' (11) [2002]

An sql error occurred while fetching this page. Please contact an administrator if this problem persi

Re: Ymweled â Maes-e

PostioPostiwyd: Llun 07 Medi 2009 2:01 am
gan Mali
Helo 'na :)
Yn digwydd i finna hefyd ers tua wythnos. Mi fyddai'n trio dod i mewn i'r maes , ac mae'n cymeryd gymaint o amser , mi fyddai'n rhoi'r gorau i drio fel arfer. Mae hyn yn digwydd unrhyw adeg o'r diwrnod ar Pacific Standard Time.

Re: Ymweled â Maes-e

PostioPostiwyd: Llun 07 Medi 2009 6:52 pm
gan Duw
Ydy hyn dal yn digwydd?

Mae pethe wedi siapo'n sylweddol nawr (i mi beth bynnag). Yn ol pob tebyg roedd defnyddiwr arall ar y shared server yn storio a chwarae ei mp3s. Mae'r busnes hyn yn bygro lan safleoedd pobl eraill ar yr un server. Mae'r 'reseller' wedi cael gair â'r person a dwi'n deall ei fod wedi stopio.

Ger llaw, ceisiais â chyfddyddio NEWYDDION yn ddiweddar a gwnes dorri'r dudalen am gyfnod byr. Posib hwn oedd yn gyfrifol am y neges "MYSQL...", er dwi'n amau hynny.

Re: Ymweled â Maes-e

PostioPostiwyd: Llun 07 Medi 2009 7:01 pm
gan sian
Mae'n well o lawer yma hefyd. Diolch yn fawr.

Re: Ymweled â Maes-e

PostioPostiwyd: Llun 07 Medi 2009 7:30 pm
gan Hazel
Duw a ddywedodd:Ydy hyn dal yn digwydd?


Roedd hi'n dda am ddau ddyddiau. Wedyn, ddoe, nid alla' i' ymweled â hi am amryw oriau. Heddiw, popeth yn iawn.