Mae'n ymddangos nad yw'r ffeiliau CSS (sy'n dweud wrth eich porwr sut mae'r wefan i fod i ymddangos) yn llwytho, a dyna pam fod y maes yn edrych yn od iawn! Nam ar y gweinydd yw hyn (nid bai fi na Duw, onest
). Dwi wedi rhoi gwybod i Aran (sydd yn hynod o hael ac yn darparu gofod ar gyfer maes-e ar ei weinydd ef yn rhad ac am ddim) ac mae ef wedi cysylltu gyda'r sawl sydd yng ngofal y gweinydd. Dyma'r ymateb diweddaraf, gobeithio bydd nol yn gweithio yn fuan
"This issue has been more complex than we first thought; I am going to forward this ticket back to our third level queue so we can spend more time on looking into this issue. Thanks for your continued patience during this time."