Tudalen 1 o 1

Trafferthion efo'r dudalen

PostioPostiwyd: Gwe 18 Medi 2009 2:07 am
gan Mali
Be sy'n bod? Ddim ond yn gweld sgwennu glas ar un ochr i'r dudalen. :?

Re: Trafferthion efo'r dudalen

PostioPostiwyd: Gwe 18 Medi 2009 8:31 am
gan Orcloth
Dwi'n cael yr un drafferth a ti, Mali, y tudalennau i gyd (heblaw am yr un sgwrs) yn dod i fyny fel rhestr? Pwy sydd wedi bod yn chwarae o gwmpas hefo'r maes a wedi newid bob dim? Neb wedi deud dim byd naddo? Mae o'n edrych yn od iawn, rhaid dweud, ond mae bob dim yn gweithio'n iawn o leiaf! Ydi hyn wedi digwydd i pawb?

Re: Trafferthion efo'r dudalen

PostioPostiwyd: Gwe 18 Medi 2009 8:54 am
gan Mwnci Banana Brown
Odi. CSS....?

Re: Trafferthion efo'r dudalen

PostioPostiwyd: Gwe 18 Medi 2009 8:59 am
gan sian
Rhyw fath o gyhoeddiad gan maes-e ar twitter:

maes-e ar twitter a ddywedodd:mmm... peth problemau gyda http://maes-e.com/ ar hyn o bryd :-s , gobeithio bydd e nôl lyn gweithio'n iawn yn fuan!

Re: Trafferthion efo'r dudalen

PostioPostiwyd: Gwe 18 Medi 2009 9:20 am
gan Hedd Gwynfor
Mae'n ymddangos nad yw'r ffeiliau CSS (sy'n dweud wrth eich porwr sut mae'r wefan i fod i ymddangos) yn llwytho, a dyna pam fod y maes yn edrych yn od iawn! Nam ar y gweinydd yw hyn (nid bai fi na Duw, onest :o :winc: ). Dwi wedi rhoi gwybod i Aran (sydd yn hynod o hael ac yn darparu gofod ar gyfer maes-e ar ei weinydd ef yn rhad ac am ddim) ac mae ef wedi cysylltu gyda'r sawl sydd yng ngofal y gweinydd. Dyma'r ymateb diweddaraf, gobeithio bydd nol yn gweithio yn fuan :D

"This issue has been more complex than we first thought; I am going to forward this ticket back to our third level queue so we can spend more time on looking into this issue. Thanks for your continued patience during this time."

Re: Trafferthion efo'r dudalen

PostioPostiwyd: Gwe 18 Medi 2009 1:56 pm
gan Orcloth
Diolch i ti am adael i ni wybod be sy'n mynd ymlaen, Hedd - er, mae'n rhaid dweud fy mod yn dechra arfer hefo'r ffordd mae o rwan - tydio'm yn rhy ddrwg!

Re: Trafferthion efo'r dudalen

PostioPostiwyd: Gwe 18 Medi 2009 7:39 pm
gan Duw
Ok, dwi wedi trwsio'r CSS, ond yn anffodus mae'r baneri'n dioddef. Dwi'n siwr bod nifer ohonoch ddim yn rhy ypset bod dim hysbysebion ar faes-e, ond dyna'r unig ffordd mae'n ennill ei bywoliaeth a felly ei bodolaeth. Problemau gyda ffeiliau llwgr mwy na thebyg.

Os ydych yn sylwi ar brobleme, yn enwedig os ydy'r gair 'DNS' yn ymddangos, byddwch gystal â phostio'n ddiymdroi gan roi cymaint o fanylion â sy'n bosib.

Diolch am eich amynedd.