Tudalen 1 o 1

Sensor Rhithffurfiau Anweddus

PostioPostiwyd: Mer 07 Hyd 2009 6:14 pm
gan Macsen
Nawr bod y swing-o-meter gwleidyddol wedi siglo'n ôl o 'tolerance' i 'intolerance' ga'i roi fy het mary whitehouse ymlaen a chwyno am rithffurf un o drigolion y Maes? Dyna lle'r oeddwn i'n bwyta fy nghinio pan ddes i ar draws neges gan Duw, sydd a rhithfurff sy'n edrych i mi fel dau ddarn o gachiad mewn tŷ bach!

Mae hyn yn Warthus. Os ydi Maes-e eisiau cadw defnyddwyr (y ddau neu dri sydd dal yn postio'n gyson) falle sa'n well pe bai'r cymedrolwr ddim yn ein gwrthyrru gyda delweddau afiach o ysgarthiadau arnofiol.

Yn gywir,

Sorllyd o Gwm Sgwt

Re: Sensor Rhithffurfiau Anweddus

PostioPostiwyd: Mer 07 Hyd 2009 10:48 pm
gan Seonaidh/Sioni
Absoliwtli! A dyma un arall sy'n reit warthus - ddaru fi weld rhithffurf rhywun yma syn edrych yn union fel dwy wythien fawr sy'n perthyn i neb sy wedi ymroddi a chyffuriau caled...

Re: Sensor Rhithffurfiau Anweddus

PostioPostiwyd: Iau 08 Hyd 2009 10:56 pm
gan nicdafis
Firefox + Adblock = ddim yn gweld lluniau dw i ddim eisiau gweld.