Nawr bod y swing-o-meter gwleidyddol wedi siglo'n ôl o 'tolerance' i 'intolerance' ga'i roi fy het mary whitehouse ymlaen a chwyno am rithffurf un o drigolion y Maes? Dyna lle'r oeddwn i'n bwyta fy nghinio pan ddes i ar draws neges gan Duw, sydd a rhithfurff sy'n edrych i mi fel dau ddarn o gachiad mewn tŷ bach!
Mae hyn yn Warthus. Os ydi Maes-e eisiau cadw defnyddwyr (y ddau neu dri sydd dal yn postio'n gyson) falle sa'n well pe bai'r cymedrolwr ddim yn ein gwrthyrru gyda delweddau afiach o ysgarthiadau arnofiol.
Yn gywir,
Sorllyd o Gwm Sgwt