Er y bydda i mewn peryg o swnio fel rhyw hen deyrn ieithyddol fan hyn, ma'n rhaid i mi ofyn, Nic, a yw'n bosib cywiro rhywbeth sy' wedi'i gamsillafu mewn pwnc newydd?!
Yn 'y marn bach i, mae'n gostwng safon a chrebwyll y maes, gan bod lot o'r rhai sy'n edrych (busnesa) ar edefyn yn meddwl mai felna mae sillafu'r peth, gan olygu bod yr iaith yn dirywio yn y pen draw!
Dwi'n ymateb yn benodol i'r edefyn ar felinau gwynt... ac mae'r teitl yn dal i ddweud 'melinnau'. Dw i wedi rhoi 'marn yno, ond meddwl o'n i be' yw'r ffordd ore i gywiro pethe fel hyn, sy'n cael eu gweld gan gannoedd o Gymry Cymraeg, diolch i lwydddiant ysgubol Maes-e.
Cais bach caredig yw hwn; dw i ddim yn meddwl unrhyw beth personol na chas wrtho!! Sori am bregethu fel hen wrach