Camsillafu'n difrïo maes-e

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Camsillafu'n difrïo maes-e

Postiogan brenin alltud » Llun 20 Hyd 2003 11:00 am

Er y bydda i mewn peryg o swnio fel rhyw hen deyrn ieithyddol fan hyn, ma'n rhaid i mi ofyn, Nic, a yw'n bosib cywiro rhywbeth sy' wedi'i gamsillafu mewn pwnc newydd?! :?

Yn 'y marn bach i, mae'n gostwng safon a chrebwyll y maes, gan bod lot o'r rhai sy'n edrych (busnesa) ar edefyn yn meddwl mai felna mae sillafu'r peth, gan olygu bod yr iaith yn dirywio yn y pen draw!

Dwi'n ymateb yn benodol i'r edefyn ar felinau gwynt... ac mae'r teitl yn dal i ddweud 'melinnau'. Dw i wedi rhoi 'marn yno, ond meddwl o'n i be' yw'r ffordd ore i gywiro pethe fel hyn, sy'n cael eu gweld gan gannoedd o Gymry Cymraeg, diolch i lwydddiant ysgubol Maes-e.

Cais bach caredig yw hwn; dw i ddim yn meddwl unrhyw beth personol na chas wrtho!! Sori am bregethu fel hen wrach :winc:
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

ieithyddol

Postiogan Clarice » Llun 20 Hyd 2003 11:14 am

I beth?
Mae digon o bobol yn teimlo'n ansicr wrth sgrifennu Cymraeg fel ma hi heb bod na bobol eraill yn cywiro eu hiaith nhw. Cyfathrebu yw'r peth pwysig!
Rhyddid i camtreiglo!
Rhithffurf defnyddiwr
Clarice
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 279
Ymunwyd: Iau 02 Hyd 2003 10:09 am
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Geraint » Llun 20 Hyd 2003 11:17 am

Ie, ma rhai o ni efo trwyddeg i camtreiglo! (ar gael ym marchnad sblot)

O ddifri, ma na lawer o ni yn heb cael unrhyw addysg/hyfforddaint/cywiriad yn ein iaith ers gadael ysgol! Sut ddiawl da chi fod wybod os oes un neu dau 'n' mewn gair? :?

Dwi'n meddwl fod en iawn i'r iaith allu ddatblygu ffordd ysgrifen(n)ol, sy'n adlewyrchu ein Cymraeg lafar.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan brenin alltud » Llun 20 Hyd 2003 11:21 am

Meddwl o'n i am gywiro teitlau'r pynciau'n unig - a pharhau'r safon uchel mae Nic wedi'i osod wrth gyfieithu holl becyn y meddalwedd i ddechrau!

Dyw e ddim yn digwydd yn aml o gwbl, ond jyst pan ma na fistec amlwg iawn o'n i'n feddwl.

Ma safon iaith pawb yma'n anhygoel o dda digwydd bod.

O, dw i'n dyfaru dweud dim! :ofn:
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Geraint » Llun 20 Hyd 2003 11:25 am

Mae'n iawn BA, mae hi ddiddorol wedi steil iaith yn ddatblygu ar y maes ddo. Falle mae neges preifat i Nic neu cymedrolwr y seiat fydde'r ffordd gorau i ofyn am newid/cywiriad.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan brenin alltud » Llun 20 Hyd 2003 11:30 am

OK - diolch, os ma hynny'n iawn ganddyn nhw!
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Gruff Goch » Llun 20 Hyd 2003 11:51 am

Re: Melinau / Melinnau

Mae'nn henn bryd i nni gael gwared ar y blinncin 'n' ddwbwl ynna beth bynnnnag :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan nicdafis » Llun 20 Hyd 2003 2:41 pm

Iawn, dw i wedi newid, ac wedi dileu y negeseuon a oedd yn torri ar draws y trafodaeth diddorol sy'n datblygu yn yr edefyn.

Tro nesa, er mwyn wybodaeth, byddai neges i awdur yr edefyn, neu i fi, yn lot well na dat-reilio'r holl edefyn ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Geraint Edwards » Llun 20 Hyd 2003 2:51 pm

Ella gellid sefydlu seiad ar gyfer gloywi iaith, pan fo gennym gwestiwn ar fater o ramadeg a ballu.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Postiogan brenin alltud » Llun 20 Hyd 2003 3:27 pm

Ella gellid sefydlu seiad ar gyfer gloywi iaith, pan fo gennym gwestiwn ar fater o ramadeg a ballu.



Cool! 'Swn i wrth 'y modd yn rhoi'r holl drifia (drifel) gramadegol 'ma sy'n un slwj yn y 'mhen i ar waith os 'di e o fudd i rywun... 8)

[/quote]
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Nesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron