Cardibach a ddywedodd::crio:
O, paid â chrio, ti'n gwybod o'n i'n jocan.
Dw i ddim am fod yn "ffasgwr sillafu" o gwbl. Does dim ots 'da fi yn y byd am gamsillafu a chamdreiglo - dw i'n wneud y ddau yn aml iawn (ac wedi cael fy nghywiro). Dw i hefyd yn ymwybodol nad yw'r Gymraeg yn iaith gyntaf i lawer o'n defnyddwyr (fi, er enghraifft), felly dw i ddim am weld "fflamau sillafu" mewn edefau cyffredin. Dyna pam dileuais i sylw Brenin Alltud, a'r sylwadu a ddilynodd gan eraill, yn edefyn Cardi am y melinau gwynt.
Wrth gwrs ei bod hi'n wir taw "cyfathrebu sy'n bwysig", ac os dydy gwallau iaith ddim yn ymyrryd a'r cyfrathrebu, does dim problem. Doedd y "melinnau" ddim yn fy moddran i achos fy mod i'n cael gwaith gyda'r busnes "dwbli n" hefyd, ond yn amlwg oedd e'n fwy amlwg i bobl eraill. Oedd e'n cymryd hanner munud i mi ei newid, ac o'n i'n cymryd na fyddai ots 'da Cardibach - mewn byd perffaith fyddwn i wedi gofyn iddo fe yn gyntaf, ond fyddai hynny wedi cymryd mwy o amser ac o'n i'n fishi ar y pryd.
Dw i newydd newid camsillafiad mewn teitl edefyn arall, un a'i ddechreuwyd gan y Gimpster fel mae'n digwydd (rhaid i mi wneud yn siwr bod rhywbeth go iawn 'da fe i gwyno amdano, ond oes?
) Oedd e wedi camsillafu "speed dating" (<i>spped dating</i>) a bob tro o'n i'n gweld e, o'n i'n sylweddoli arno. Mae camsillafiadau yn Saesneg yn lot mwy amlwg i fi, achos taw honno yw fy mamiaith.
Yn bersonol, dw i ddim yn lico unrhywbeth sy'n wneud pethau yn fwy annodd i'w darllen, a dw i ddim yn siarad am dafodiaith yma. Dydy "vn gwybod" ddim yn sganio i fi, ond mae "wi'n wbod" yn gwbl darllenadwy. Felly mae pobl sy'n arbed amser gan ddefnyddio iaith tecsio yn wneud i fi weithio yn fwy caled. Sut mae hynny yn helpu'r broses o gyfathrebu?
Dw i ddim yn dweud na ddylai neb ddefnyddio'r fath iaith, jyst rhoi fy marn ydw i. Byddai'n neis swn i'n gallu ymuno â sgwrs heb gael fy nghyhuddio o fod yn ffasgwr. Mae diddordeb mawr 'da fi yn y pwnc 'ma - hoffwn i glywed beth mae pobl eraill yn meddwl. Dw i ddim am osod polisi cadarn yma - mae'n debyg y bydda i'n cario ymlaen wneud beth dw i wedi bod yn wneud a chywiro camsillafu mewn teitl edefyn os ydy e'n fy nharo fi, neu os ydy rhywun yn ei bwyntio fe mas. Dw i wedi newid teitlau edefau yn gyfan gwbl weithiau, yn enwedig os ydy'r edefyn yn edrych yn un addawol, ond nad yw'r teitl yn glir. Pwrpas y teitl yw i ddenu pobl i mewn i'r edefyn, wedi'r cwbl.