Tudalen 3 o 5

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 10:04 am
gan nicdafis
Newydd ddod ar draws hyn ar dudalen help y geiriadur ar-lein:

Idris Reynolds a ddywedodd: Ni all y sgolor gorau - alw gair
'Nôl i gof ar brydiau,
Ond un cof nad yw'n nacáu
Yw gwe'r ystyron geiriau


;-)

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 10:08 am
gan Alys
Fel rhywun sy newydd sgwennu "sonic boom" sawl gwaith achos do'n i ddim am drafferthu chwilio amdano yn y geiriadur (cyfathrebu sy'n bwysig de? :winc: ) dwi'n meddwl nad oes dim byd o'i le hefo cywiro teitlau edefynnau, ond dydi o ddim yn beth da i dorri ar draws sgyrsiau trwy sylwi ar iaith (oni bai fod o'n rhywbeth doniol ac wedi'i wneud mewn modd cyfeillgar).

Ond PLIS wnei di newid "golygwyd ar un achlusur yn unig" pan fydd gen ti amser? :winc:

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 10:55 am
gan Barbarella
Beth am jyst derbyn yr ymchwil a drafodwyd yn yr edefyn yma ?!
Aoccdrnig to rscheearch at Cmabrigde uinervtisy, it deosn't mttaer waht oredr the ltteers in a wrod are, the olny iprmoetnt tihng is taht the frist and lsat ltteres are at the rghit pclae. The rset can be a tatol mses and you can sitll raed it wouthit a porbelm. Tihs is bcuseae we do not raed ervey lteter by it slef but the wrod as a wlohe.

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 11:28 am
gan nicdafis
Alys a ddywedodd:Fel rhywun sy newydd sgwennu "sonic boom" sawl gwaith achos do'n i ddim am drafferthu chwilio amdano yn y geiriadur (cyfathrebu sy'n bwysig de? :winc: ) dwi'n meddwl nad oes dim byd o'i le hefo cywiro teitlau edefynnau, ond dydi o ddim yn beth da i dorri ar draws sgyrsiau trwy sylwi ar iaith (oni bai fod o'n rhywbeth doniol ac wedi'i wneud mewn modd cyfeillgar).


Yn union. <i>clec sonig</i>, gyda'r llaw.

Alys a ddywedodd:Ond PLIS wnei di newid "golygwyd ar un achlusur yn unig" pan fydd gen ti amser? :winc:


:wps:

Ti wedi gofyn am hyn o'r blaen, ond wyt?

Ha! Gan nad wyt ti wedi esbonio yn fanwl beth oedd y broblem gyda fe, dw i wedi newid y gair "achlusur" yn gyfan gwbl, heb sylwi mod i wedi ei gamsillafu. Mae "un achusur" wedi newid i "unwaith", sy'n well, dw i'n credu (?), ond a ydy e'n well i ddefnyddio "achlysur" yn yr ymadrodd isod?

Cod: Dewis popeth
Golygwyd gan %s ar %s, golygwyd %d (g)waith at ei gilydd


..gan fod nad oes treiglad i boeni amdano. Dyna pam dewisais i "achlusur" [<i>sic</i>] yn y lle cyntaf, dw i'n meddwl.

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 11:38 am
gan Alys
Ha dwi'n cofio beth oedd y problem. Mae'n dal i ddweud "achlusur" imi. Dwi'n un o'r bobl gynnes a chyfeillgar na sy wedi dewis yr opsiwn "ti" yn lle "chi". Ti ddim wedi newid hwnnw :winc: Ond ia dwi'n cytuno mae "gwaith" yn gweithio os ti'n gweld. (Mi fasa'n gweithio'n braf yn yr opsiwn "ti" hefyd :winc: )

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 12:21 pm
gan Macsen
Newydd newid Yfed ac Meddwi i Yfed a Meddwi.

Hooray for me!

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 12:56 pm
gan Gruff Goch
Gruff Goch a ddywedodd:Re: Melinau / Melinnau

Mae'nn henn bryd i nni gael gwared ar y blincin 'n' ddwbwl ynna beth bynnnnag :drwg:


Sori, do'n i ddim yn glir fanna. Meddwl y dyla ni gael gwared o'r 'n' ddwbl o'r iaith Gymraeg o'n i- fasa hynny'n plesio pawb ond am y rhai sydd am gadw'u mantais 'dwi'n gwybod sut i sillafu'n Über-cywir'.

Dydi camsillafu pobl ar y Maes ddim yn fy mhoeni i cyhyd a fy mod i'n gallu eu dallt nhw, ond dwi'n trio bod yn eitha' cywir fy hun. Mae o'n ymarfer da.

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 3:17 pm
gan eusebio
'Dwi'n cytuno nad yw camsillafu yn fy mhoeni'n ormodol, ond rwyf yn ceisio bod y gywir fy hyn.
Yr hyn 'dwi yn gasau ydi sgwrsio text-io - pam mae pobl yn gwneud hyn ar y we? Dim blydi ffôn ydi hwn, mae 'na ddigon o le i blymin' 'sgwennu!

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 3:26 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
eusebio a ddywedodd:Yr hyn 'dwi yn gasau ydi sgwrsio text-io - pam mae pobl yn gwneud hyn ar y we? Dim blydi ffôn ydi hwn, mae 'na ddigon o le i blymin' 'sgwennu!


Huzzah! Rhywun arall sy'n teimlo fel tipyn o hen wr grwgnachlyd ynglyn a'r pethe 'ma. Digon teg os nad ydych chi'n gallu sillafu'n iawn (fi'n ceisio o' ngorau i sillafu popeth yn gywir a defnyddio iaith loyw nawr), ond peidiwch da chi a defnyddio'r rwtsh nodyn bodyn, neu cewch glatsien gennyf i.

Iawn? :crechwen:

PostioPostiwyd: Mer 22 Hyd 2003 3:29 pm
gan nicdafis
Alys a ddywedodd:Ha dwi'n cofio beth oedd y problem. Mae'n dal i ddweud "achlusur" imi. Dwi'n un o'r bobl gynnes a chyfeillgar na sy wedi dewis yr opsiwn "ti" yn lle "chi". Ti ddim wedi newid hwnnw :winc: Ond ia dwi'n cytuno mae "gwaith" yn gweithio os ti'n gweld. (Mi fasa'n gweithio'n braf yn yr opsiwn "ti" hefyd :winc: )


Iawn, wedi wneud.