Alys a ddywedodd:Fel rhywun sy newydd sgwennu "sonic boom" sawl gwaith achos do'n i ddim am drafferthu chwilio amdano yn y geiriadur (cyfathrebu sy'n bwysig de?
) dwi'n meddwl nad oes dim byd o'i le hefo cywiro teitlau edefynnau, ond dydi o ddim yn beth da i dorri ar draws sgyrsiau trwy sylwi ar iaith (oni bai fod o'n rhywbeth doniol ac wedi'i wneud mewn modd cyfeillgar).
Yn union.
<i>clec sonig</i>, gyda'r llaw.Alys a ddywedodd:Ond PLIS wnei di newid "golygwyd ar un achlusur yn unig" pan fydd gen ti amser?
Ti wedi gofyn am hyn o'r blaen, ond wyt?
Ha! Gan nad wyt ti wedi esbonio yn fanwl beth oedd y broblem gyda fe, dw i wedi newid y gair "achlusur" yn gyfan gwbl, heb sylwi mod i wedi ei gamsillafu. Mae "un achusur" wedi newid i "unwaith", sy'n well, dw i'n credu (?), ond a ydy e'n well i ddefnyddio "achlysur" yn yr ymadrodd isod?
- Cod: Dewis popeth
Golygwyd gan %s ar %s, golygwyd %d (g)waith at ei gilydd
..gan fod nad oes treiglad i boeni amdano. Dyna pam dewisais i "achlusur" [<i>sic</i>] yn y lle cyntaf, dw i'n meddwl.