sian a ddywedodd:Helo Robin
Wnes i
flogio am y sefyllfa ar ôl darllen dy neges di ar ForumWales.
Mae'r sefyllfa yn anodd - mae angen denu pobl i ddarllen Cymraeg heb wneud yr iaith yn dlawd ac yn siabi.
Newydd darllen y blog pennodol ar dy wefan wych Sian, diddorol tu hwnt, yn crybwyll ddadleon diddorol, cytbwys. Mae hyn yn mater yr wyf wedi bod yn pendroni am flynyddoedd bellach ac mae'n ymddangos ei fod yn broblem sydd angen ffocws gan pawb ohonnym sydd am i'r iaith Gymraeg parhau i'r ganrif nesaf. Y broblem ydy fod e'n anodd i bobl Gymraeg wella safon ei Cymraeg ar ol adael ysgol (fwy anodd nag y mae hi trwy'r Saesneg) ac mae sawl un yn rhoi'r ffidil yn y to ac yn nawr rwy'n ei cwrdd a nhw ar facebook ac mae nhw'n deud ei bod nhw methu siarad/ sgwennu yn y Gymraeg rwan - hyd ynoed Cymraeg anffurfiol y we! Problem nhw ella? Wel, y peth yw, mae na cymaint ohonnynt yn gwneud hyn (yn enwedig o tref ar y ffin fel Wrecsam) nes ei bod yn reit brawychus....hyd ynoed os yw rhywun yn mynd ati o ddifri i drio mae e dal yn anodd...(os faddeuwch, dyma fy stori innai):
Mae teulu fy nhad yn hanu o Rhosllannerchrugog ac yn siarad Gymraeg fel iaith gyntaf (Cymraeg arbennig...gyda quirks drwyddi draw ac mae Dodo fy nhad wastad yn deud pethe fel 'Cymraeg Rhos dwi'n siarad ynde, nid Cymraeg iawn'. Mae e'n Cymraeg annwyl ond Cymraeg yr aelwyd ydydw yn ein teulu ni, heb ei meistoli yn y coleg na ddim byd felly ac felly mae yna wallau). Ar ben hyn mae llawer yn y teulu yn fyddar ac felly yn cyfathrebu tryw BSL/ Saesneg...ac felly yn 'disinherited' trwy ddim cael cyfle i siarad Gymraeg (ac yn Saesneg/ BSL byddaf yn cyfarthrebu gyda nhw). Mi wnaeth mam weithio'n galed yn y coleg ar ol briodi a dysgu'r Gymraeg 'from scratch' llu ac er fod ei Chymraeg hi'n fwy cywir na Cymraeg dad (tydi hi byth yn deud 'ffeindio' na ddim byd felly) tydi hi ddim yn hyderys iawn ei Chymraeg.
Tyfes i fynnu yn Wrecsam gan fynychu ysgolion Cymraeg ei hiaith a ches i felly y fraint o addysg Gymraeg, ond mae yna ddau peth pwysig i nodi fan hyn: 1) Mi roedd diwylliant yr Ysgol yn un Wenglish (Gweler cerdd ffantastic Aled Lewis Evans 'Over the llestri' am ddisgrifiad o hyn); 2) Gan na wnaeth neb yn yr ysgol pigo fynnu ar y ffaith fod dyslecsia gen i (nes i mi ddechrau lefel A) mi roeddwn yn y trydydd set am sawl pwnc, gan gynnwys y Gymraeg, ac ar ben y ffaith na wnes i felly cael y cyfle i ddarllen Cysgod Y Cryman, gan ddarganfod IFFE a nofelau eraill diddorol, wnes i hefyd colli flas ar gwaith ysgol gan bo fi i weld yn ffeilio trwy'r adeg dim ots faint o ymdrech yr oeddwn yn ei roi.
O ganlyniad roedd safon fy ysgrifennu yn y ddau iaith yn eithaf wael ar ol ysgol (er i mi gael TGAU yn y ddau). Yna ges i wybod fod dyslecsia arna i a ddechreuais gweithio ar wella fy Saesneg ysgrifennedig er mwyn cael wneud lefel A a fynd i brifysgol. Es i brifysgol dros y ffin (dim dewis) wedyn aros yma neshi er mwyn gwaith ayyb.
Mae safon fy Saesneg ysgrifennedig ynawr o safon uchel dros ben gan i mi fynychu dosbarthiadau nos, darllen llyfrau gramadeg ayyb yr wyf yn sgwennu'n well na llawer o fy 'peers' a dwi wrthi'n gwneud Doethuriaeth! Ond mae safon fy nghymraeg dal yn wael, neu...yn naturiol/ anffurfiol (megis Saesneg David Beckham). Ond dwi eisiau sgwennu yn y Gymraeg a gwella safon fy iaith. Dwi di bod wrthi'n trio dysgu rheolau'r iaith yn gywir ers rhyw ddeng mlynedd ond mae e'n iaith fwy cymleth na Saesneg a does ddim cymaint o ddosbarthiadau nos fforddiadwy ayyb...ac ia, dwi di chwylio'n eang a dwi'n fodlon trafeilio o Caer/ Cilgwri...dwi yn Llangollen bron pob wythnos...
Dwi dal yn trio ynde, dwi di darllen CYC ac Yn ol i Leifior, Wythnos yng Nghymru Fydd, Y Blaned Dirion a dwi'n ceisio barddoni, (gweler fy mlog:
http://www.saralouisewheeler.wordpress.com). Dwi hefyd di cychwyn sgwennu colofn (Synfyrfion Llenyddol) i'r papur bro (gweler y blog) ond mae'n cymryd llawer o ymdrech ac mae rhywun di cwyno am safon Cymraeg y papur a dwi'n amau fod hi di cyfeirio at fy ngholfn i yn bennodol
Dwi'n ei siecio mor fanwl a dwi'n gallu a mae gen i Cysill/ Cysgair ar y cyfrifiadur cw, ond mae fy nghymraeg dal yn carpiog...mae'n rhaid dweud weithiau i mi feddwl 'Fysa hi'n haws jest peidio foddran a sgwennu yn Saesneg yn lle!' Ond wedyn dwi'n teimlo cywilydd ac yn estyn am geiriadur yr academi eto