Mewngofnodi...
Postiwyd: Gwe 28 Ion 2011 6:29 pm
Wedi trio mewngofnodi heno.
Ar ol teipio fy enw a 'nghyfrinair, mi ddaeth 'na neges i ddeud mod i wedi trio mewngofnodi ormod o weithia'. Ro'n i'n goro rhoi rhyw god i mewn er mwyn cael mewngofnodi.
Tydw i heb drio mewngofnodi nifer o weithia'. Ydi hyn yn golygu bod rhywun yn trio hacio mewn i 'nghyfrif?
(Gyda llaw, os oes 'na negeseuon yn dod i fyny am sut 'dwi'n eich casau chi i gyd, ffansio Dai Jones Llanilar neu yn holi 'da chisho prynu tabledi i'ch gwneud chi'n nwydwyllt, bydd yr hacwyr wedi llwyddo!)