Rhyfedd - posib bod rhyw ddiawl o haciwr wedi ein targedu a cheisio defnyddio cyfrifon aelodau. Rydym wedi cloi lawr ar lawer o wendidau amlwg yn dilyn ymosodiadau trwm yn y gorffennol. Efallai bod cadw'ch hunain wedi mewngofnodi yn ddatrysiad byr dymor, er dwi'n gwybod gall hwn fod yn broblem wrth newid cyfrifiaduron.
Os ydyw dal yn parhau, plis rhowch NB i mi.
Yn dilyn ychydig o ymchwil, des ar draws hyn:
//GOLYGU
http://www.phpbb.com/community/viewtopi ... #p12926188Mae'n disgrifio'r un broblem ar draws llawer o fforymau phpbb. Mae'n edrych fel mae fy ngofidion yn gywir - taw spambots sydd yn gyfrifol. Gwnaf ymchwilio'n bellach.
Os ydy hyn yn wir, gallaf ond awgrymu eich bod yn gwirio eich cyfrineiriau a sicrhau eu bod yn rhai cadarn. Mae mae 'cadarn' yn cynnwys cymysgedd o prif lythrennau a llythrennau bychain a rhifau. Dylai pob cyfrinair fod o leiaf 6 nod.
HEFYD - plis sicrhewch rydych yn defnyddio cyfrinair gwahanol i'ch rhai normal (e.e. ebost ac ati). Yn ddelfrydol, dylai pob cyfrif sydd gennych ar y we gael cyfrinair unigryw. Haws dweud na gwneud dwi'n gwybod.
Un peth sydd o gysur - o leiaf mae'n dangos bod diogelwch y fforwm wedi dal hyd yn hyn, fel arall byddai toreth o spam wedi ymddangos.