Mewngofnodi...

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mewngofnodi...

Postiogan Manon » Gwe 28 Ion 2011 6:29 pm

Wedi trio mewngofnodi heno.
Ar ol teipio fy enw a 'nghyfrinair, mi ddaeth 'na neges i ddeud mod i wedi trio mewngofnodi ormod o weithia'. Ro'n i'n goro rhoi rhyw god i mewn er mwyn cael mewngofnodi.

Tydw i heb drio mewngofnodi nifer o weithia'. Ydi hyn yn golygu bod rhywun yn trio hacio mewn i 'nghyfrif?

(Gyda llaw, os oes 'na negeseuon yn dod i fyny am sut 'dwi'n eich casau chi i gyd, ffansio Dai Jones Llanilar neu yn holi 'da chisho prynu tabledi i'ch gwneud chi'n nwydwyllt, bydd yr hacwyr wedi llwyddo!) :winc:
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Mewngofnodi...

Postiogan Gwen » Gwe 28 Ion 2011 6:52 pm

Dwi di bod yn cael yr un profiad yn union yn ddiweddar, Manon. Ond dim heddiw gan mod i di bod yma gymaint.
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Mewngofnodi...

Postiogan Mali » Sad 29 Ion 2011 12:33 am

Wedi cael yr un profiad nifer o weithiau yma hefyd , ond pethau wedi clirio yr wythnos yma. :?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Mewngofnodi...

Postiogan osian » Sad 29 Ion 2011 3:43 am

Ma' hyn wedi digwydd i mi droeon. Dim i boeni amdano!
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Mewngofnodi...

Postiogan Hazel » Maw 01 Chw 2011 12:40 pm

Manon a ddywedodd:Wedi trio mewngofnodi heno.
Ar ol teipio fy enw a 'nghyfrinair, mi ddaeth 'na neges i ddeud mod i wedi trio mewngofnodi ormod o weithia'. Ro'n i'n goro rhoi rhyw god i mewn er mwyn cael mewngofnodi.

Tydw i heb drio mewngofnodi nifer o weithia'. Ydi hyn yn golygu bod rhywun yn trio hacio mewn i 'nghyfrif? quote]



I fi hefyd. Sawl tro.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Mewngofnodi...

Postiogan Duw » Maw 01 Chw 2011 6:16 pm

Rhyfedd - posib bod rhyw ddiawl o haciwr wedi ein targedu a cheisio defnyddio cyfrifon aelodau. Rydym wedi cloi lawr ar lawer o wendidau amlwg yn dilyn ymosodiadau trwm yn y gorffennol. Efallai bod cadw'ch hunain wedi mewngofnodi yn ddatrysiad byr dymor, er dwi'n gwybod gall hwn fod yn broblem wrth newid cyfrifiaduron.

Os ydyw dal yn parhau, plis rhowch NB i mi.


Yn dilyn ychydig o ymchwil, des ar draws hyn:


//GOLYGU
http://www.phpbb.com/community/viewtopi ... #p12926188

Mae'n disgrifio'r un broblem ar draws llawer o fforymau phpbb. Mae'n edrych fel mae fy ngofidion yn gywir - taw spambots sydd yn gyfrifol. Gwnaf ymchwilio'n bellach.

Os ydy hyn yn wir, gallaf ond awgrymu eich bod yn gwirio eich cyfrineiriau a sicrhau eu bod yn rhai cadarn. Mae mae 'cadarn' yn cynnwys cymysgedd o prif lythrennau a llythrennau bychain a rhifau. Dylai pob cyfrinair fod o leiaf 6 nod.

HEFYD - plis sicrhewch rydych yn defnyddio cyfrinair gwahanol i'ch rhai normal (e.e. ebost ac ati). Yn ddelfrydol, dylai pob cyfrif sydd gennych ar y we gael cyfrinair unigryw. Haws dweud na gwneud dwi'n gwybod.

Un peth sydd o gysur - o leiaf mae'n dangos bod diogelwch y fforwm wedi dal hyd yn hyn, fel arall byddai toreth o spam wedi ymddangos.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Mewngofnodi...

Postiogan Mali » Maw 01 Chw 2011 7:40 pm

Diolch am yr eglurhâd ! :ofn: Felly mae'n ofynol i'r aelodau newid eu cyfrineiriau ?
Newydd wneud un i beth bynnag .
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Mewngofnodi...

Postiogan Duw » Maw 01 Chw 2011 11:14 pm

O na - paid a newid dy gyfrinair os yw'n ddiogel. Jest awgrymu oeddwn i bod angen i unrhyw gyfrinair fod yn un cadarn. Boed hwnnw ar maes-e, eich cyfrif bancio ar-lein, e-bost, beth bynnag. Mae sbamwyr a hacwyr yn defnyddio sawl dull i geisio a thorri i mewn i gyfrifon. Un dull yw'r "brute force" attack. Mae hwn yn meddwl bod rhaglen yn cael ei osod i drio cyfrinair ar ol cyfrinair yn erbyn enw aelod. Mae phpBB wedi'i gynllunio er mwyn atal gormod o geisiadau - hynny yw mae'n rhaoi bloc arno - felly y neges rydych yn ei weld. I fod yn onest, os ydy eich cyfrinair yn un rhyfedd fel rhai enwau Cymraeg - anodd iawn byddai torri hyn. Ar y llaw arall, os ydych yn defnyddio rhifau yn lle rhai llythrennau, gall hwn wneud y cyfrinair yn saffach fyth, e.e. woollyback -> w00lly84ck (amnewidiadau cyffredin 0 [sero] ar gyfer o, 4 ar gyfer A, 8 ar gyfer B ac ati).

Rwyf wir yn gobeithio dwi heb ddychryn pawb gyda'm neges gynt. Er, os ydy eich cyfrinair yn 'wan', posib dylech feddwl am ei newid. :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Mewngofnodi...

Postiogan Manon » Mer 02 Chw 2011 5:20 pm

Woolyback 'di dy gyrinair di 'lly, Duw? :winc:
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Mewngofnodi...

Postiogan ceribethlem » Iau 03 Chw 2011 8:21 am

Manon a ddywedodd:Woolyback 'di dy gyrinair di 'lly, Duw? :winc:

NAge, w00lly84ck
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Nesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai