Mae Gwefan Golwg360 wedi ail lawnsio ar ei newydd wedd.
Rydyn ni wedi diweddaru dyluniad y wefan yn ogystal ag ychwanegu amrywiaeth o nodweddion newydd, gan gynnwys:
• Tudalen flaen gliriach, gan gynnwys rhagor o le ar gyfer straeon
• Cartref newydd i’r newyddion Chwaraeon a Chelfyddydau
• Rhyngwyneb hyblyg a hawdd ei ddefnyddio
• Y gallu i adael sylwadau ar bob stori
• Botymau er mwyn rhannu straeon gydag eraill ar Twitter a Facebook
• Y gallu i weld y straeon mwyaf poblogaidd a’r pynciau llosg
• Dolenni o fewn straeon er mwyn tynnu eich sylw at gynnwys tebyg
• Calendr a Blog newydd sbon danlli
Felly ewch i gael cip o amgylch y wefan – ac yna dewch yn ôl atom ni er mwyn rhoi eich barn! Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r wefan newydd.
Bydd nodweddion eraill yn cael eu cynnwys dros yr wythnosau nesaf wrth i chi ddod i arfer â’r cynllun newydd.
Felly galwch draw am olwg http://www.golg360.com