Tudalen 1 o 1

Gwefan newydd Golwg360

PostioPostiwyd: Maw 08 Chw 2011 4:53 pm
gan golwg360
Mae Gwefan Golwg360 wedi ail lawnsio ar ei newydd wedd.

Rydyn ni wedi diweddaru dyluniad y wefan yn ogystal ag ychwanegu amrywiaeth o nodweddion newydd, gan gynnwys:

• Tudalen flaen gliriach, gan gynnwys rhagor o le ar gyfer straeon

• Cartref newydd i’r newyddion Chwaraeon a Chelfyddydau

• Rhyngwyneb hyblyg a hawdd ei ddefnyddio

• Y gallu i adael sylwadau ar bob stori

• Botymau er mwyn rhannu straeon gydag eraill ar Twitter a Facebook

• Y gallu i weld y straeon mwyaf poblogaidd a’r pynciau llosg

• Dolenni o fewn straeon er mwyn tynnu eich sylw at gynnwys tebyg

• Calendr a Blog newydd sbon danlli

Felly ewch i gael cip o amgylch y wefan – ac yna dewch yn ôl atom ni er mwyn rhoi eich barn! Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r wefan newydd.

Bydd nodweddion eraill yn cael eu cynnwys dros yr wythnosau nesaf wrth i chi ddod i arfer â’r cynllun newydd.

Felly galwch draw am olwg http://www.golg360.com

Re: Gwefan newydd Golwg360

PostioPostiwyd: Gwe 11 Chw 2011 1:51 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Hoffwn weld ystadegau, ffigyrau a.y.y.b. ar y wefan sy'n rhoi i ni ddarlun (cyflawn yn amhosibl- Duw yn unig a wyr) o lefel prysurdeb/poblogrwydd y wefan.
Cic yn nhin y sin darllen Cymraeg? Llwyth o ystadegau ac yna trio eu dehongli a'u deall mewn ffordd deallus a threiddgar.
Ceir llwyth o ystadegau digon difyr ar maes-e!

Re: Gwefan newydd Golwg360

PostioPostiwyd: Llun 14 Chw 2011 3:54 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Llai o straeon cachu yn crafu tin Uwchgymry Cymraeg os gwelwch yn dda e.e.
http://www.golwg360.com/newyddion/addys ... si-cymraeg