Hogyn o Rachub, rydych chi'n llygaid eich lle. Pan oeddwn i yn yr ysgol roedd yr athrawon yn ein dysgu ni 'mae...gyda ni' , a phan roeddwn yn astudio am fy TGAU Cymraeg dechreuon nhw siarad am y gwahaniaeth rhwng y gogledd a'r de, a helpwyd gan y ffaith yr oedd yna ddwy athrawes ac un athro, un a ddysgodd yr iaith , un ohonyn nhw o Ynys Mon ac un o'r de.
Mae'r ffrindie Cymraeg sy 'da fi naill ai'n ddysgwyr neu'n hen ddysgyblion o ysgol Gymraeg a mae'u Cymraeg nhw'n gallu bod yn wael weithiau. Maen nhw wastad yn defnyddio Saesneg wrth siarad am ddyddiadau , fel y dywedoch chi, a mae yna ambell i air Saesneg yn codi'i ben yn eu brawddegau nhw weithiau. Wedi dweud hynny, mae dweud y dyddiad yn Gymraeg yn gallu bod yn hynod o gymhleth i bobl sydd ddim yn deall nac yn defnyddio'r ffordd ugeiniol o gyfri. Er enghraifft, sut ydyn nhw'n mynd i allu dweud y dyddiad yn Gymraeg os nad ydynt yn gwybod beth yw'r unfed ar hugain mewn rhifau?
Fel rhywun sydd am ddod yn athro fy hun , rwy'n credu bod angen gwneud mwy i hyrwyddo'r defnydd o Gymraeg ymhlith disgyblion ysgolion Cymraeg y de, mae diffyg o ddefnydd yr iaith wedi iddynt fynd trw'r giat ysgol yn golygu bod nhw'n colli'r iaith wedi iddynt adael. Rwy'n gwybod hynny o brofiad, mae gyda fi gyfeillion a aeth i ysgol Gymraeg sydd bellach yn methu ynganu gair yn yr iaith. Serch hynny, mae'r defnydd o Gymraeg yn gwella , a galla i ddweud hynny trwy brofiad hefyd. Wrth gerdded trwy Gaerdydd, Casnewydd, Morgannwg e.e rwyf wedi clywed Cymraeg, sydd yn ardderchog.
Cododd fy nghalon heddi wedi clywed am chwaer fy ffrind sydd yn mynd i ysgol Saesneg, dim ond 11 oed yw hi ond mae'n dysgu Cymraeg ac erbyn hyn mae ar ei ffordd i ruglder. Bydd y cyfrifiad yn dangos cynydd rwy'n siwr a gyda'r ffaith bod yr iaith bellach ymhobman a'r gallu i ddefnyddio Cymraeg yn gwella , efallai ei fod e yn argoeli'n dda wedi'r cwbl
