Tafodiaith, bratiaith, neu ddiogi ?

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Tafodiaith, bratiaith, neu ddiogi ?

Postiogan Ben Alun » Mer 25 Mai 2011 5:17 pm

Rydych chi i gyd yn iawn, am wyddwn i, mae yna wahaniaeth rhwng 'byth' ac 'erioed' a maen nhw yn newid ystyr y frawddeg. Wrth gwrs, fel y trafodwyd eisioes, mae dylanwad y Saesneg yn drwm weithiau ar lafar gwlad. Yn yr ysgol , a rwy'n gwybod hyn o brofiad, fe ddysgir y dylid defnyddio 'byth' wrth siarad am y presennol, ac 'erioed' wrth siarad am y gorffennol.
E.e Dydw i byth yn mynd i'r llyfrgell (Presennol)
Doeddwn i erioed wedi bod yn hoff o wersi drama yn yr ysgol (Goffennol)
Er , wrth gwrs , fod 'byth' yn cyfleu'r hyn sydd heb ei gyflawni eto, a'r hyn y mae'r siaradwr yn gobeithio ei gyflawni yn y dyfodol. Mae 'erioed' yn cyfleu'r hyn na wneuthpwyd yn y gorffennol, a rhywbeth ni ellir ei newid,
E. Pan oeddwn yn grwt, 'nes i erioed fynd i'r ysgol ( Ni ellir newid hynny, all y siaradwr ddim mynd yn ol i'w blentyndod)
E.e Dw i byth wedi bod i'r Iwerddon ( Ond rwy'n ifanc, mae 'na ddigon o amser , a' i ryw bryd yn y dyfodol)

Mae'r defnydd o 'gyda' i ddweud yr hyn yr eiddoch chi yn hollol gywir. Sylwer - Cymraeg Da, Heini Gruffudd,Gramadeg Cymraeg David Thorne, neu'r llyfr awdurdodol ar ramadeg Cymraeg, Gramadeg y Gymraeg, Peter Wynn Thomas Prifysgol Caerdydd. Mae yna rwyg ieithyddol rhwng y de a'r gogledd fel rydyn ni i gyd yn gwybod, ond dydy hyn ddim yn golygu bod yr hyn a ddywedir yn y gogledd ar lafar gwlad neu yn ysgrifenedig yn fwy cywir na'r hyn a ddywedir gan gymry Cymraeg y de. Wedi darllen gymaint o lenyddiaeth yng Nghymraeg y de, a'r de ddwyrain yn enwedig, fe geir y defnydd o 'gyda' bob tro wrth son am fi, ti a chi ond fe redir yr arddodiad 'gan wrth son am nhw, ni, fe a hi e.e mae gyda fi, mae gyda ti, mae gyda chi, mae ganddo fe,mae ganddi hi, mae ganddyn nhw a mae ganddon ni, yn ogystal a mae gyda fe a mae gyda hi ayyb. Dydw i ddim yn meddwl bod rhedeg yr arddodiad 'gan' wrth siarad am eiddo yn fwy cywir na defnyddio 'gyda', yn bennaf o achos yn gymraeg safonol, fe welir y ddwy ffurf a mae'n werth nodi ei fod yn bosibl i chi weld y ddwy ffurf mewn un llyfr gan yr un awdur/es, fel rydw i wedi gweld yn y gorfennol. Hefyd, fel y gwyddoch i gyd, ceir yn Gymraeg rywbeth a elwir yn 'sangiad' a olyga'r weithred o newid lle'r arddodiad gyda'r goddrych. E.e mae gen i gar, yn lle mae car gen i. Ymddengys bod y defnydd o sangiad yn fwy poblogaidd yn y gogledd nag ydy yn y de, o achos mae'n fwy tebyg y clywch chi 'mae gen i' na mae...gen i.
Ben Alun
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Maw 24 Mai 2011 1:25 am
Lleoliad: Abertyleri, Blaenau Gwent

Re: Tafodiaith, bratiaith, neu ddiogi ?

Postiogan osian » Mer 25 Mai 2011 10:40 pm

Dwi heb wrando ar albym Jarman. Mi allwn i ychwanegu heddiw neu wsos yma etc. i hyn. Ond ar ben ei hun, ma'n golygu mod i erioed wedi gwrando arni.
Dwi byth wedi gwrando ar albym Jarman. Rioed wedi, ond wedi bwriadu gneud.
Dwi wedi gwrando ar albym Jarman erioed. Naddo ti heb, dydi mond allan ers wsos dwytha.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Tafodiaith, bratiaith, neu ddiogi ?

Postiogan Ben Alun » Iau 26 Mai 2011 1:24 am

Wedi gwneud cryn dipyn o waith ymchwil, dyma'r rheolau safonol ynglyn a defnyddio 'byth' ac 'erioed'. Ond rwy'n credu y dylwn i'ch rhybuddio, maen nhw'n ddyrys tu hwnt ac yn eich drysu chi weithiau, serch hynny, wedi'r drafodaeth helaeth yma roeddwn i'n meddwl y basai'n syniad da i roi terfyn ar y mater a phostio ymateb oedd ar sail tystiolaeth ac ymchwil. Mae'r beth sydd isod yn lled adlewyrchu beth rydyn ni i gyd wedi dweud yn barod, ond mae yna nifer o gywiriadau hefyd y dylem eu hidio.

'Byth' ac 'erioed'

Ceir gwahaniaeth amseryddol rhwng y ddau air, ond hefyd ceir dwy brif swyddogaeth, sef son am y diffyg o gyflawni gweithred y ferf ac hefyd cyfleu elfen o syndod.

'Byth'

Fe alwa Wynn Thomas hyn yn 'y Byth Cylawni'. Yn y cyd-destun hwn, mae'r 'byth' yn son am diffyg pahaol y siaradwr neu'r person y siaredir amdano/i o weithredu'r ferf, hyn ydy tuedd y siardwr neu'r person a siaredir amdano/i i beidio a gwneud rhywbeth. Gellir defnyddio 'byth' gyda'r ferf seml ddyfodol, Amhenodol neu Amherffaith ac wrth gwrs y Presennol a cheir enhreifftiau o bob amser isod.

Presennol: Nid yw John byth yn siarad
Dyfodol: Ni fydd Arwel byth stopio smygu
Amhenodol: Ni fyddai Carys byth yn dysgu gyrru
Amherffaith: Nid oedd Idris byth yn hoff o Huw
Yn y brawddegau uchod, mae'r siaradwr yn siarad am ddiffyg rhywun o gyflawni gweithred y ferf. Mae'r gair 'byth' yn pwysleisio nad ydy gweithred y ferf wedi cael ei gwneud. Yma, ceir gogwydd presennol neu ddyfodol. Dyna pam y credir bod rhaid defnyddio 'byth' gyda'r presennol a'r dyfodol ac 'erioed' gyda'r gorfennol, er nad oes yr un rheol pendant a orchmynnir hynny.Mae hyn yn adlewyrchiad o'r gogwydd y disgrifir yma.
Wrth siarad fel hyn, ceir elfen o feirniadaeth negyddolyn llais y siaradwr, mae'n edliw'r person a siaredir amdano/i am beidio a chyflawni gweithred y ferf.

1.O ran safle 'byth' mewn brawddeg, mae'n dibynnu ar y ferf.
2. Fe ddaw 'byth' wedi'r goddrych gyda berfau parhaol e.e A ydyw Phylis byth yn siarad?
3.Ond fe ddaw ar ddiwedd y Cymal gyda'r ferf Orffenedig neu Syml e.e A aeth Huw i'r capel byth?

Mae'r brawddegau yma i gyd yn gogwyddo i'r dyfodol. E.e efallai bod Huw dal yn fyw, neu newydd farw, a dyna pam y mae'r frawddeg yn gogwyddo tuag at y presennol. Pe dywedai 'A aeth Huw i'r capel erioed, efallai y bu farw e flynyddoedd yn ol a dyna pam y mae'r frawddeg yn gogwyddo tuag at y gorffennol.

Mae 'byth' uchod yn cyfleu elfen o syndod, gall 'o hyd' led adlewyrchu 'byth' e.e 'Mae hi'n mynd yno o hyd' tra bod ' erioed' yn amlinellu'r parhad o fynd yno yn ddefodol ers rhyw amser yn y gorffennol.

Os ydy'r siaradwr am greu elfen o syndod nid y weithred ddim yn digwydd o gwbl, yna gall 'erioed' fod yn declyn i greu elfen o syndod, os ydy'r ferf yn un gyfansawdd. Nid oes ots pa amser y ferf y defnyddir, ond mae'n rhaid i'r ferf fod yn gyfansawdd (h.y roedd..., mae,..., basai,.. yn lle rhodda i , gwnaeth e, es i , er enghraifft). Nid ellir creu elfen o syndod fel hyn gyda 'byth' gyda berfau cyfansawdd, oni ei fod ar ddiwedd y cymal
E.e Wyt ti erioed yn canu!
Wyt ti'n canu byth!

Erioed
Bydd 'erioed' bob amser yn awgrymu gogwydd gorffennol. Pwysleisia 'erioed' fod y weithred heb ei chyflawni o gwbl. O ran safle 'erioed', ymddengys y gall ddod naill ai wedi'r goddrych neu ar ddiwedd y Cymal.

1.Dyw Gwen erioed wedi gwneud tiesen
2. Doeddwn i wedi hoffi Huw erioed

Mae'r gwahaniaethau amseryddol rhwng 'byth' ac 'erioed' yn gallu pylu weithiau, ond y gogwydd sydd yn bwysig wrth geisio dod o hyd i'r gwahaniaeth yn ogystal ag amser y ferf. Isod ceir enghreifftiau o 'byth ac erioed ebychiadol' ac wrth gweld y ddwy frawddeg, mae'r gwahaniaeth amseryddol yn dod yn fwy clir.

1. Mae hi'n mynd yno byth
2. Mae hi'n mynd yno erioed

Mae 'erioed', pan ddefnyddir mewn cymal negyddol, yn gallu cyfeirio at barhad arfer ers y gorffennol hefyd, tra bod 'byth' yn cyfeirio at weithrad na lwyddwyd i'w chyflawni er roedd yna'r bwriad i wneud hynny.
E.e Dw i byth wedi gwrando ar albwm Jarman ( er roeddwn i wedi)
Dw i erioed wedi gwrando ar albwm Jarmab ( a doeddwn i ddim yn mynd i wrando ar yr albwm chwaith)

Pan ddefnyddir 'erioed' mewn brawddeg a ffurfir gan ferf seml gydag adferf arall, fel arfer bydd yr 'erioed' yn creu elfen o syndod
E.e Ni chlywais erioed y fath beth! ( Berf seml= Ni chlywais, Adferf 1= y fath Adferf 2= Erioed)

Gall 'byth' ac 'erioed' hefyd ffurfio brawddeg yn annibynnol
E.e Ddewch chi gyda ni heno? Byth! ( Na ddo i )
Ers pryd dych chi'n athro? Erioed ( Ers cyn co')

Felly dyma ni, dyma'r rheolau. Fe sylwch chi i gyd bod hyn yn adlewyrchu beth rydyn ni wedi dweud yn barod, ond dyma'r rheolau swyddogol ar ddefnyddio 'byth'ac 'erioed' yn ol Prifysgol Caerdydd. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn taflu goleuni ar y pwnc :)
Ben Alun
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Maw 24 Mai 2011 1:25 am
Lleoliad: Abertyleri, Blaenau Gwent

Nôl

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai