Tafodiaith, bratiaith, neu ddiogi ?
Postiwyd: Maw 24 Mai 2011 1:40 am
Mae gan y Gymraeg eirfa hynod o gyfoethog. Mae'r geiriadur yn llawn geiriau diddorol a gwerth eu gwybod. Mae addasu geirfa i weddu i'r byd modern yn un peth, a mae defnyddio rhai Saesneg yn anochel , nid o achos ein bod yn byw ddrwys nesa iddyn nhw ond fel canlyniad o globaleiddio ond pam oes rhaid i bobol ddefnyddio gymaint o saesneg ? Wrth siarad yn naturiol mae un gair di-gymraeg yn codi'i ben salw o dro i dro wrth gwrs ond rwyf wedi clywed 'fi afo ' yn lle 'mae gyda fi' a 'tax payers money' yn lle 'arian trethdalwyr' sef brawddeg lawn. Mae hyn yn bychanu'r Gymraeg. Mae pob iaith yn datblygu, nid adwaenir y Gymraeg a siaredid yn yr oesoedd canol heddiw oni bai eich bod yn arbenigwr, ond mae brithio brawddegau Cymraeg gyda geirfa Saesneg ac hefyd newid cystrawen Gymraeg i weddu i batrymau ieithyddol Saesneg yn mynd i gael effaith dragwyddol a negyddol ar yr iaith, a fydd yn arwain at y diflaniad o eirfa a chystrawen wreiddiol. Siaradwch yn Gymraeg, nid yn wenglish, gogish neu beth bynnag mae rhai yn siarad sydd yn swnio'n debyg i'r Gymraeg.