Rydych chi i gyd yn iawn, am wyddwn i, mae yna wahaniaeth rhwng 'byth' ac 'erioed' a maen nhw yn newid ystyr y frawddeg. Wrth gwrs, fel y trafodwyd eisioes, mae dylanwad y Saesneg yn drwm weithiau ar lafar gwlad. Yn yr ysgol , a rwy'n gwybod hyn o brofiad, fe ddysgir y dylid defnyddio 'byth' wrth siarad am y presennol, ac 'erioed' wrth siarad am y gorffennol.
E.e Dydw i byth yn mynd i'r llyfrgell (Presennol)
Doeddwn i erioed wedi bod yn hoff o wersi drama yn yr ysgol (Goffennol)
Er , wrth gwrs , fod 'byth' yn cyfleu'r hyn sydd heb ei gyflawni eto, a'r hyn y mae'r siaradwr yn gobeithio ei gyflawni yn y dyfodol. Mae 'erioed' yn cyfleu'r hyn na wneuthpwyd yn y gorffennol, a rhywbeth ni ellir ei newid,
E. Pan oeddwn yn grwt, 'nes i erioed fynd i'r ysgol ( Ni ellir newid hynny, all y siaradwr ddim mynd yn ol i'w blentyndod)
E.e Dw i byth wedi bod i'r Iwerddon ( Ond rwy'n ifanc, mae 'na ddigon o amser , a' i ryw bryd yn y dyfodol)
Mae'r defnydd o 'gyda' i ddweud yr hyn yr eiddoch chi yn hollol gywir. Sylwer - Cymraeg Da, Heini Gruffudd,Gramadeg Cymraeg David Thorne, neu'r llyfr awdurdodol ar ramadeg Cymraeg, Gramadeg y Gymraeg, Peter Wynn Thomas Prifysgol Caerdydd. Mae yna rwyg ieithyddol rhwng y de a'r gogledd fel rydyn ni i gyd yn gwybod, ond dydy hyn ddim yn golygu bod yr hyn a ddywedir yn y gogledd ar lafar gwlad neu yn ysgrifenedig yn fwy cywir na'r hyn a ddywedir gan gymry Cymraeg y de. Wedi darllen gymaint o lenyddiaeth yng Nghymraeg y de, a'r de ddwyrain yn enwedig, fe geir y defnydd o 'gyda' bob tro wrth son am fi, ti a chi ond fe redir yr arddodiad 'gan wrth son am nhw, ni, fe a hi e.e mae gyda fi, mae gyda ti, mae gyda chi, mae ganddo fe,mae ganddi hi, mae ganddyn nhw a mae ganddon ni, yn ogystal a mae gyda fe a mae gyda hi ayyb. Dydw i ddim yn meddwl bod rhedeg yr arddodiad 'gan' wrth siarad am eiddo yn fwy cywir na defnyddio 'gyda', yn bennaf o achos yn gymraeg safonol, fe welir y ddwy ffurf a mae'n werth nodi ei fod yn bosibl i chi weld y ddwy ffurf mewn un llyfr gan yr un awdur/es, fel rydw i wedi gweld yn y gorfennol. Hefyd, fel y gwyddoch i gyd, ceir yn Gymraeg rywbeth a elwir yn 'sangiad' a olyga'r weithred o newid lle'r arddodiad gyda'r goddrych. E.e mae gen i gar, yn lle mae car gen i. Ymddengys bod y defnydd o sangiad yn fwy poblogaidd yn y gogledd nag ydy yn y de, o achos mae'n fwy tebyg y clywch chi 'mae gen i' na mae...gen i.