Oes na bobol? ........ Duw mae hi'n goblyn o dawel yma! Heb fod yma am fl ynyddoedd lawer. Ble mae Cymry Cymraeg yn cyfathrebu dyddiau ma? Twitar a gweplyfr yn unig? Dwi'n defnyddio fforymau saesneg ar y ffon symudol gan ddefnyddio tapatalk a forum runner ond oes yna "app" ar gyfer defnyddio maes e?
Ie mae'r fforwm yn wag dyddiau 'ma*. Dwi heb ddod yma yn aml ers ysbaid maith ond nes i symud i Gymru yn ddiweddar felly dwi 'di bod yn cael cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith fodd bynnag.
Enghraifft perffaith: y pwnc 'ma. Naeth o ddechrau blwyddyn yn ôl ond fi sydd y chweched i ateb iddo.