Tudalen 1 o 1
Be Sy Wedi Digwydd ??
Postiwyd:
Sad 10 Rhag 2011 6:25 am
gan Blewyn
Ma'i di mynd yn ddistaw diawledig yma ! Be haru pawb ?
Re: Be Sy Wedi Digwydd ??
Postiwyd:
Sad 10 Rhag 2011 9:57 am
gan Bod
Ia de; d’i ddim yn brysur iawn yma nag ‘di!
Re: Be Sy Wedi Digwydd ??
Postiwyd:
Llun 12 Rhag 2011 3:23 am
gan Mali
Wel, ble ti 'di bod Blewyn bach ?
Gyda llaw, diolch am adael nodyn ar Blog Mali , ac atgoffa fi nad ydwi wedi sgwennu yno ers misoedd .
Re: Be Sy Wedi Digwydd ??
Postiwyd:
Maw 13 Rhag 2011 4:53 pm
gan Blewyn
Yn yr anialwch !
Croeso
Re: Be Sy Wedi Digwydd ??
Postiwyd:
Iau 16 Awst 2012 5:44 pm
gan Boibrychan
Oes na bobol? ........ Duw mae hi'n goblyn o dawel yma! Heb fod yma am fl
ynyddoedd lawer. Ble mae Cymry Cymraeg yn cyfathrebu dyddiau ma? Twitar a gweplyfr yn unig?
Dwi'n defnyddio fforymau saesneg ar y ffon symudol gan ddefnyddio tapatalk a forum runner ond oes yna "app" ar gyfer defnyddio maes e?
Re: Be Sy Wedi Digwydd ??
Postiwyd:
Sul 09 Rhag 2012 7:51 pm
gan Gwenci Ddrwg
Ie mae'r fforwm yn wag dyddiau 'ma*. Dwi heb ddod yma yn aml ers ysbaid maith ond nes i symud i Gymru yn ddiweddar felly dwi 'di bod yn cael cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith fodd bynnag.
Enghraifft perffaith: y pwnc 'ma. Naeth o ddechrau blwyddyn yn ôl ond fi sydd y chweched i ateb iddo.
Re: Be Sy Wedi Digwydd ??
Postiwyd:
Llun 10 Rhag 2012 11:42 am
gan dil
dwi ar maes e o hyd sti yn rhoi gigs fynu a sbio ar bethe erill. ond ma ymateb yn brin.