Tudalen 1 o 1

Deunydd dyslecsia yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 13 Ion 2013 6:56 pm
gan Josgin
Mae gennyf blentyn sy'n dioddef yn ddrwg iawn o ddyslecsia, yn ol yr ysgol gynradd. Er mai Cymraeg yw ei iaith gyntaf, mae o fel petai'n well am ddarllen Saesneg.
A oes unrhyw ddeunydd, profion, cynlluniau ayb yn y Gymraeg , ogdd ? Mae popeth fel petai yn y Saesneg. Yr wyf yn cofio clywed son am rhyw ganolfan ym Mangor yr ai plant atynt, ond hyd y cofiaf i ( nid bod hyn yn synnu neb) , Saeson rhonc hollol di-Gymraeg oeddent. Ni glywais amdanynt ers tro bellach.

Re: Deunydd dyslecsia yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 14 Ion 2013 7:01 pm
gan ceribethlem
Fi'n cymryd dy fod yn gwneud pethau fel defnyddio font comic sans a phapur (neu ffilter) melyn?

Re: Deunydd dyslecsia yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 14 Ion 2013 9:50 pm
gan Josgin
Diolch - ond nid wyf yn hoffi ymyrryd gormod yng ngwaith yr ysgol (Melltith rhiant sy'n athro). Yn yr ysgol y buasai'n dod ar draws hynny.