Tudalen 1 o 8
"Maes-eh" ynteu "Mae-si"
Postiwyd:
Mer 29 Hyd 2003 3:34 pm
gan nicdafis
(Diolch i <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?p=35179#35179">Babs</a> am f'atgoffa i ofyn y cwestiwn 'ma.)
Sut wyt ti'n ynganu enw'r maes?
Dw i'n defnyddio'r ddau, gan ddibynnu â phwy dw i'n siarad.
Sdim ots un ffordd neu'r llall, jyst o ran diddordeb.
Postiwyd:
Mer 29 Hyd 2003 3:38 pm
gan Al Jeek
Maes-eh bob tro.
Onim yn gwbod fod neb yn galw fo yn maes-i tan wan.
Postiwyd:
Mer 29 Hyd 2003 3:42 pm
gan Barbarella
Wel, ie, mae'n dibynnu sbo, ond o'n i wastad wedi cymryd mai "maes-i" oedd e fod, oherwydd bod e'n gyfeiriad at y gân Datblygu o'r un enw -- mae'r gytgan yn mynd:
Dave Edwards a ddywedodd:Ar Faes E
Heb y barnu na'r cystadlu
Ac yn ôl ei ynganiad e (a fe dyfeisiodd yr enw yn y lle cynta, dwi'n cymryd) mae'r ddwy linell yn odli.
Postiwyd:
Mer 29 Hyd 2003 3:44 pm
gan Mihangel Macintosh
Al, yn amlwg, ti ddim yn ffan o
Datblygu 'de.
Postiwyd:
Mer 29 Hyd 2003 3:44 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Wel fi'n gweud Maes-eh. Ond wedyn ni, fel gwedodd rhyw dwat lan yn y Coed Duon wrtha i y diwrnod o'r blaen, "You're a fucking language purist"
Postiwyd:
Mer 29 Hyd 2003 3:48 pm
gan Barbarella
Ac hefyd, mae Maes E Datblygu yn gyfeiriad nôl eto at Faes B y Steddfod (yr hen un, nid yr un cyfoes, gan nad oedd hwnnw'n bodoli ar y pryd).
A "Maes Bî" ma pawb yn dweud, ife, nid "Maes By"
Postiwyd:
Mer 29 Hyd 2003 3:52 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Aye, there's the rub.
Fi'n gweud Maes Bi.
"Bi pedwar tri tri pedwar"
Postiwyd:
Mer 29 Hyd 2003 3:59 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
Maes i dwi'n ddeud yn 'y mhen wrth ryw hannar-canu can yr anfarwol Ddatblygu bob tro dwi'n dwad yma, ond Maes Eh ar lafar.
A de, a dwi'm isho bod yn gas, ond yNganu ydi'r gair Nic
Postiwyd:
Mer 29 Hyd 2003 4:21 pm
gan Geraint
Nes i ddechrau wrth ddweud Maes-i, achos y can Daltblygu, ond ar ol i mi gwrdd a mwy o fobl o'r maes, odd pawb yn deud eh, so dwi nawr yn deud maes-eh. Ma'r seciwritate iaith yn gorchymun cydymffurfiad!
Postiwyd:
Mer 29 Hyd 2003 4:46 pm
gan Chwadan
On i di meddwl dechra'r sgwrs yma oes yn ol...maes-eh ol ddy we.