"Maes-eh" ynteu "Mae-si"

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sut wyt ti'n ynganu enw'r maes?

maes eh
126
85%
mae si
14
9%
mae'n dibynnu
8
5%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 148

Postiogan Gwen » Mer 22 Chw 2006 5:47 pm

Gofyn i 'genhedlaeth' newydd eto?
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Huw Psych » Mer 22 Chw 2006 6:52 pm

Eh bob tro, erioed wedi ystyried ih, erioed chwaith wedi clwed am y gan! :wps:

Ah, By, Cy, Ch, Dy, Dd, Eh...

Dwi'n cymryd mae o enw'r gan y mae enw'r maes wedi dod, ond oes gan rywun ystyr arall i'r 'e' yn "maes-e"? Maes-electronig, gan fod 'e' yn golygu electronig gan amlaf dyddia yma?!
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan sion_llanclan » Mer 22 Chw 2006 7:51 pm

Fatha'r gan.

'Maes-E heb y barnu na'r cystadlu'

My arse! :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
sion_llanclan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 288
Ymunwyd: Maw 01 Tach 2005 4:22 pm
Lleoliad: 'Stiniog

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Sul 19 Maw 2006 8:36 pm

Maes-I byddaun dweud bob tro, newydd sylwi heddi bod pobol yn dweud Maes-Eh! :D
Ffindes i'r Maes drwy chwilio amdano geiriau y gan, felly dwi di gweud '-I' o'r ddechre.

Huw Psych a ddywedodd:Dwi'n cymryd mae o enw'r gan y mae enw'r maes wedi dod, ond oes gan rywun ystyr arall i'r 'e' yn "maes-e"? Maes-electronig, gan fod 'e' yn golygu electronig gan amlaf dyddia yma?!

Ma'r E yn gallu meddwl be bynnag chi moen, yndife?
Yn wreiddiol odd y gan di sgwennu pan oedd y cyffur Ecstasi a'r sin Rave yn y newyddion drwy'r amser, fi'n credu, falle bo fi'n rong (1993 ife?). Felly da Maes-B yn y Steddfod, roedd y gan yn son am diwylliant Gymreig yn newid yn y dyddie fodern - y rhun fath o sefyllfa cwpl o mlynedd yn ol da'r we Gymreig. Os enw gwell i wefan trafod pob math o bethe yn y Gymraeg na hon? :winc:
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Wierdo » Sul 19 Maw 2006 11:19 pm

Maes-eh i mi bob amser. Ma'r gan yn fy ngwylltio i yn deud maes-i...grrr....ond falla na ddylwn i ddeud mwy yn fama :winc: Dwin canu maes-i ond yn deud maes-eh.

Allaim credu ei fod o di cymryd tan wan i mi ymateb i'r edefyn yma!
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Postiogan Rhys » Gwe 13 Ebr 2007 12:57 pm

Meddwl se ni'n ail-gyfodi'r hwn, rhag ofn bod aelodau newydd o gwmpas ac ddim yn ymwybodol o darddiad enw'r maes
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Gwyn » Gwe 13 Ebr 2007 1:29 pm

Ie, 'maes-eh' i fi fyd. A weud y gwir, se rhywun yn dod lan ata i ac yn dweud rhwbeth fel "wyt ti erioed di bod ar wefan 'mae si'", credu bydden i'n chwerthin ar ei ben!

"Be wyt ti, Jac Sais"?!
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog

Postiogan Reufeistr » Gwe 13 Ebr 2007 1:33 pm

Dwi wrth fy modd hefo Datblygu.....

ond Maes-Ge fyddai'n deud.
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 13 Ebr 2007 1:46 pm

Dwi 'di synnu gyda canlyniad y pôl. O'n i ddim yn ymwybodol fod pobl yn dweud Maes E (Gymraeg). Maes î fyddai'n dweud, ac hynny oherwydd cân Datblygu, sef tarddiad enw'r Maes.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan CORRACH » Gwe 13 Ebr 2007 1:51 pm

Wel, o'r bobl sy'n dweud Maes-i, ydych chi'n deid I-Bost am e-bost hefyd? Dowt gen i.
Dwi'n gweld pam "I" oherwydd can Datblygu, ond "e" am electonig bob tro siwr!
Rhithffurf defnyddiwr
CORRACH
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 894
Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
Lleoliad: Llyn Cwm Llwch

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron