Maes-I byddaun dweud bob tro, newydd sylwi heddi bod pobol yn dweud Maes-Eh!
Ffindes i'r Maes drwy chwilio amdano geiriau y gan, felly dwi di gweud '-I' o'r ddechre.
Huw Psych a ddywedodd:Dwi'n cymryd mae o enw'r gan y mae enw'r maes wedi dod, ond oes gan rywun ystyr arall i'r 'e' yn "maes-e"? Maes-electronig, gan fod 'e' yn golygu electronig gan amlaf dyddia yma?!
Ma'r E yn gallu meddwl be bynnag chi moen, yndife?
Yn wreiddiol odd y gan di sgwennu pan oedd y cyffur Ecstasi a'r sin Rave yn y newyddion drwy'r amser, fi'n credu, falle bo fi'n rong (1993 ife?). Felly da Maes-B yn y Steddfod, roedd y gan yn son am diwylliant Gymreig yn newid yn y dyddie fodern - y rhun fath o sefyllfa cwpl o mlynedd yn ol da'r we Gymreig. Os enw gwell i wefan trafod pob math o bethe yn y Gymraeg na hon?